Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae ‘Roly Patroly’ yn barod i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd

Dyma ‘Roly Patroly’, y car camera newydd a fydd ar batrôl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynd i’r afael a’r broblem o barcio peryglus y tu allan i ysgolion.

Cafodd y car ei enwi gan Thomas Lewis, disgybl chwech oed o Ysgol Gynradd Cwmfelin a enillodd gystadleuaeth ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wahodd plant ysgol lleol i gynnig eu syniadau.

Enillodd Thomas dystysgrif a thocyn rhodd am ei ymdrech creadigol, ac mae’r enw newydd wedi ei ysgrifennu ar y car, gan roi cymeriad tebyg iddo i geir enwog fel Lightning McQueen a Herbie!!

Mae ‘Roly Patroly’ yn defnyddio teledu cylch cyfyng i adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig ac mae wedi ei gynllunio i recordio unrhyw yrwyr anystyriol sy’n parcio eu ceir yn anghyfreithlon ar farciau ‘cadwch yn glir’ y tu allan i ysgolion, safleoedd bysiau, croesfannau i gerddwyr gyda marciau igam ogam ac ardaloedd eraill cyfyngedig a all beri risg i blant.

Dim ond gyrru heibio sydd angen i’r car ei wneud er mwyn nodi’r gyrwyr diystyriol hyn, ac nid oes yn rhaid iddo barcio nac aros y tu allan i ysgol. Bydd gyrwyr a welwyd gan y camera yn parcio’n anghyfreithlon yn cael hysbysiad cosb o £70 drwy’r post, a ostyngir i £35 os caiff ei dalu o fewn 21 diwrnod.

Gan y bydd y car camera newydd hwn yn gyfaill i’r plant, yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel y tu allan i’w hysgolion, roeddem yn meddwl y byddai’n hwyl gofyn i ddisgyblion enwi’r car. Cawsom nifer o syniadau gwych ac roedd yn anodd iawn dewis enillydd, felly da iawn ti Thomas!

Er gwaethaf ymdrechion gorau ysgolion, ymdrechion tîm parcio’r cyngor a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i fynd i’r afael â’r broblem hon, mae rhai gyrwyr yn parhau i barcio’n beryglus ac yn anghyfreithlon, gan beri risg i fywydau plant yn ogystal â chyfrannu at y tagfeydd traffig ar adegau prysur. Rydym ni eisiau i’r car ganolbwyntio’n llwyr ar wella diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r gyfraith yn gwahardd rhag defnyddio’r car i godi refeniw.

Rwy’n gobeithio y bydd y car camera newydd yn arf ataliol pwysig a fydd yn annog gyrwyr i ystyried yn fwy gofalus ymhle y byddant yn parcio neu sut y byddant yn hebrwng y plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, a bydd yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau

Yn ogystal â threfnu cystadleuaeth i enwi’r car newydd, fe gafodd y disgyblion wahoddiad gan y cyngor i gynllunio baneri i hyrwyddo presenoldeb y car y tu allan i ysgolion. Cafwyd naw cynllun buddugol a bydd pob un o’r naw disgybl llwyddiannus yn cael ymweliad yn hwyrach yn y mis.

Mae Thomas Lewis, sy’n 6 oed, wedi creu enw gwych ar gyfer ein car camera newydd ... Roly Patroly!

Chwilio A i Y