Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae’r cyngor yn ymestyn cyfnod y gostyngiad rhent ar stondinau marchnad ac unedau busnesau bach.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymestyn ei gynllun gostyngiad ar rent ymhellach ar gyfer masnachwyr marchnad a phreswylwyr unedau diwydiannol bach.

Bydd y gostyngiad o 50 y cant nawr ar waith tan 31 Awst 2021, ac ar ôl hynny bydd gostyngiad o 25 y cant yn dechrau. Bydd hyn yn parhau trwy gydol mis Medi, a bydd cyfraddau rhent yn dychwelyd i'r arferol ym mis Hydref.

Bydd y cam hwn yn nodi diwedd cyfres raddol o gyfraddau rhatach a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig Covid-19 yn 2020 i gefnogi busnesau bach a chanolig.

O gyfnod di-rent cychwynnol, daeth hyn yn ostyngiad o 75 y cant yn ddiweddarach wrth i fusnesau ddechrau ailagor, gan newid yn raddol i ostyngiad o 50 y cant. Yn wreiddiol, cynlluniwyd gostyngiad o 25 y cant i ddechrau ym mis Hydref y llynedd, ond cytunodd y cyngor i ymestyn y gostyngiad o 50 y cant yn hytrach.

Trwy gydol y pandemig coronafeirws, mae’r cyngor wedi gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi busnesau lleol. Gan mai’r unig eiddo masnachol yr ydym yn berchen arno yw naill ai stondinau marchnad neu unedau diwydiannol bach ganolig, gwnaethom benderfynu yn wreiddiol i rewi rhent yn gyntaf, ac yna cyflwyno cyfres raddol o ostyngiadau i helpu busnesau godi’n ôl ar eu traed.

Gyda brechlynnau’n cynyddu a chyfyngiadau’r pandemig yn parhau i leddfu, mae bywyd yn raddol ond yn sicr yn dychwelyd i'r arferol, ac er y dylem barhau i ddilyn yr holl ragofalon angenrheidiol yn erbyn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, dylem hefyd gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd y mesurau diweddaraf hyn yn sicrhau y gall ein cefnogaeth i fasnachwyr lleol barhau tra hefyd yn galluogi busnesau i gynllunio ymlaen llaw - ewch i wefan y cyngor yn www.bridgend.gov.uk am gyngor pellach ynghylch pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

Chwilio A i Y