Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae’r cyngor yn darparu gwerth £64,980 o gymorth COVID-19 i glybiau chwaraeon

Mae clybiau chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn gwerth £64,980 i'w helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws COVID-19.

Mae’r arian wedi’i ddarparu ar ôl i’r cyngor ad-drefnu Cronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr – rhan o’r broses o drosglwyddo asedau cymunedol – er mwyn rhoi cymorth ariannol ar unwaith i glybiau.

Mae hyn wedi galluogi clybiau i wneud cais am grantiau hyd at £1,000 i gynorthwyo gyda chostau gweithredu o ddydd i ddydd a gwariant cysylltiedig arall sydd wedi'i gynllunio i annog cyfranogiad, twf a gwelliant mewn chwaraeon.

Daw hyn yn sgil penderfyniad diweddar gan y cyngor i beidio â chodi tâl ar glybiau am ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer tymor 2019-20, ac i roi cefnogaeth ychwanegol i glybiau sy'n datblygu trosglwyddiadau asedau fel arolygon o feysydd, lleiniau a wicedi, gwelliannau draenio, grantiau cyfalaf i brynu offer cynnal a chadw ar gyfer mannau gwyrdd, a mwy.

Rwy’n falch iawn y bydd 67 o glybiau chwaraeon yn elwa’n uniongyrchol o'r £64,980 yn 2020-21, diolch i Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cyllid yn ystyried yr amgylchiadau eithriadol y mae llawer yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19, ac ymrwymiad parhaus clybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned tuag at gwblhau trosglwyddiadau asedau cymunedol mewn perthynas â chyfleusterau awyr agored.

A'r holl gaeau chwarae bellach yn destun mynegiadau o ddiddordeb ffurfiol gan glybiau chwaraeon neu gynghorau tref a chymuned a'r trosglwyddiadau asedau cysylltiedig ar wahanol gamau datblygu, ni ddisgwylir i unrhyw glwb orfod talu'r costau llawn heb gymhorthdal am ddefnyddio cyfleusterau lleol, a bydd y cyfleusterau eu hunain yn parhau i fod ar gael at ddefnydd y gymuned.

Mae'r cyngor yn bwriadu parhau â'r gronfa yn y flwyddyn nesaf a sicrhau bod £75,000 arall ar gael i glybiau lleol. Bydd yr arian hwn yn cefnogi timau bach, iau ac ieuenctid yn bennaf, yn ogystal â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a bydd y gronfa yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2021.

Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y