Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae’r cyngor yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fusnesau lleol ynghylch ailagor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu hyfforddiant, cyngor a deunyddiau am ddim i fusnesau lleol sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i baratoi ar gyfer ailagor.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd siopau a busnesau nad ydynt yn hanfodol yn gallu ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin, ar yr amod eu bod yn cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau i ddiogelu staff a chwsmeriaid rhag dod i gysylltiad â'r coronafeirws, mae adnodd ar-lein newydd wedi'i lanlwytho i wefan y cyngor.

Wedi'i gynllunio fel y gellir ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda'r newyddion a chyngor diweddaraf, mae'r adnodd ar-lein yn darparu manylion am gwestiynau cyffredin fel sut y gall busnesau newid cynllun eu safleoedd i helpu i ddiogelu staff a chwsmeriaid, a oes angen gwisgo masgiau wyneb neu beidio, pa newidiadau y gall siopwyr eu disgwyl, pam y dylid annog talu digyswllt, a mwy.

Mae'r cyngor wedi bod yn darparu hyfforddiant ailgychwyn am ddim i fusnesau i gefnogi ailagor, ac mae wedi sicrhau bod offer ar gael, fel gardiau rhag tisian, y gellir eu gosod o amgylch tiliau a chownteri siopau.

Mae mwy na 220 o fusnesau wedi cofrestru i gwblhau'r hyfforddiant ailgychwyn hyd yn hyn, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae'n rhaid eu trefnu ymlaen llaw. Bydd pawb sy'n cwblhau'r hyfforddiant yn derbyn tystysgrifau a sticeri ffenestr y gellir eu harddangos i roi sicrwydd i siopwyr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi busnesau lleol wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor, a byddwn yn annog unrhyw fasnachwr nad yw eisoes wedi gwneud hynny i fanteisio ar y cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim sy’n cael eu darparu gennym.

Wrth i newidiadau pellach gael eu gwneud, bydd yr adnodd ar-lein yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda datblygiadau newydd, a bydd ein tîm Cyflogadwyedd yn eich cefnogi i drefnu lle ar gyfer yr hyfforddiant am ddim, i gael gafael ar y gardiau rhag tisian a mwy.

Bydd trigolion hefyd yn sylwi ar newidiadau sy'n digwydd yn yr amgylchedd masnachol i gefnogi mesurau cadw pellter cymdeithasol ac i helpu masnachwyr i weithredu'n effeithiol.

Arweinydd y cyngor, Huw David

Mae'r perchennog busnes lleol Dave Easterbrook o Fizzy Foam yn un o'r masnachwyr sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant.

Dywedodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am yr hyfforddiant COVID-19, ac am gyflenwi'r gardiau rhag tisian, sydd wedi rhoi hyder i ni a'r gallu i baratoi i agor yn ddiogel, gan ein galluogi i ddiogelu ein cwsmeriaid a'r rhai sy'n gweithio yn ein busnes.”

Gall busnesau gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r hyfforddiant ar-lein a gardiau rhag tisian rhad ac am ddim trwy gysylltu ag employability@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio 01656 643428.

Chwilio A i Y