Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae'r Cyngor yn croesawu cyllid o £3m ar gyfer swyddi a buddsoddiad newydd yn Sony

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn darparu £3m i Ganolfan Dechnoleg Sony UK (UK TEC) er mwyn diogelu swyddi lleol a buddsoddi yn ei dyfodol tymor hir yn yr ardal.

 

Mae'r arian wedi'i ddarparu'n ychwanegol at bron i £500,000 mewn cefnogaeth ariannol i helpu'r busnes a goresgyn heriau'r pandemig coronafeirws.

Fel y brif ganolfan weithgynhyrchu a gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer Sony yn y DU, mae'r ganolfan dechnoleg yn gartref i 29 o gwmnïau tenantiaid cysylltiedig ac yn gyflogwr hir-sefydlog o fewn de Cymru.

Yn ogystal â gweithgynhyrchu camerâu ar gyfer y grŵp Sony ers 1999, mae Sony UK TEC wedi cyflenwi a gwasanaethu camerâu sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon byd-eang yn amrywio o Bencampwriaeth Wimbledon i Gwpan y Byd FIFA. Bydd yr arian hwn o'r Gronfa Wydnwch Economaidd yn amddiffyn cannoedd o swyddi ac yn gosod y sylfaen ar gyfer llawer mwy.

Bydd hefyd yn helpu prosesau gweithgynhyrchu ar y safle i ddatblygu er mwyn diwallu anghenion y dyfodol, a bydd buddsoddiad sylweddol pellach gan y cwmni i ddilyn. Mae hyn yn arwydd o hyder yng Nghyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr fel ardal lle gall busnesau ar raddfa fawr ffynnu, ac rwyf yn hynod falch fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu'r cyllid hwn i Sony.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Am ragor o wybodaeth ynghylch trydydd cam y Gronfa Wydnwch Economaidd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. 

Chwilio A i Y