Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae'r cyngor yn cefnogi cwmnïau ynni a thechnoleg i ddarparu deiliaid tai ag ynni carbon isel rhad – ac mae cynlluniau ar gyfer academi sgiliau lleol a chyfleuster hyfforddi arbenigol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi gwaith cwmnïau ynni a thechnoleg i ddarparu deiliaid tai ag ynni carbon isel rhad.

Yn dilyn prosiect peilot yn y fwrdeistref sirol yn 2018 a welodd trigolion a gymerodd ran yn arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar eu biliau ynni, mae system gwresogi hybrid glyfar bellach yn cael ei chynnig yn fasnachol i bobl sydd â boeleri olew neu LPG.

Mae'r B-Snug Smart Hybrid Heating System yn cyfuno technoleg adnewyddadwy a chonfensiynol.

Dywedodd Ian Rose o PassivSystems, darparwr gwasanaethau gwresogi â chofrestriad MCS sydd wedi’i gymeradwyo o dan yr RECC ac sy'n cefnogi cynnig BSnug: “Dyluniwyd y system gwresogi hybrid i weithio ar ei gorau mewn adeiladau nad ydynt wedi'u cysylltu â'r grid nwy sydd â biliau gwresogi mawr.

“Mae'n cynnig modd syml a fforddiadwy i gwsmeriaid fel y gallant drosglwyddo i ffynhonnell ynni carbon isel fwy cynaliadwy heb orfod ailosod eu systemau gwresogi olew neu LPG presennol.

“Trwy osod pwmp gwres hybrid ochr yn ochr â'u boeleri, gall pobl osod tua 80% o'u galw am ynni ar bwmp gwres.

“Er mwyn defnyddio'r system, mae angen gosod pwmp gwres ffynhonnell aer Samsung ochr yn ochr â boeler LPG neu olew a gwasanaeth rheoli clyfar uwch gan PassivSystems.

“Mae'r rheolyddion clyfar uwch yn newid rhwng y ddwy ffynhonnell wres, gan ddewis y ffynhonnell tanwydd fwyaf priodol yn awtomatig er mwyn darparu cynhesrwydd a chysur, pan fydd eu hangen, yn y modd mwyaf costeffeithlon.

“Yn ogystal â gwerthuso a modelu nodweddion thermol y cartref yn barhaus, mae hefyd yn dehongli data rhagolygon y tywydd er mwyn optimeiddio'r strategaeth wresogi.”

Mae'r awdurdod lleol, sydd am weld y fwrdeistref sirol yn troi'n barth arloesi carbon isel, yn cymryd rôl ragweithiol wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu modelau busnes, cadwyni cyflenwi a thechnolegau y bydd eu hangen yn y blynyddoedd i ddod.

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw un o dair ardal awdurdod lleol yn unig sydd wedi cael eu dewis gan Lywodraeth y DU i ddatblygu cynlluniau ynni carbon isel a allai gael eu dyblygu yn eu tro mewn lleoedd eraill ledled y wlad. Newcastle a Bury ym Manceinion Fwyaf yw'r ddwy ardal arall.

Dywedodd Mr Rose: “Gallai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr honni’n wir ei bod yn gartref i bympiau gwres hybrid clyfar.

“Rydym yn gobeithio sefydlu ôl troed da yn y fwrdeistref sirol. Rydym yn gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i greu academi sgiliau tra bo Samsung yn creu cyfleuster hyfforddi ar gyfer gosod systemau pwmp gwres hybrid.”

Gofynnir i drigolion sydd â diddordeb mewn darganfod mwy lenwi ffurflen gyswllt ar wefan B-Snug a bydd B-Snug yn cysylltu â nhw wedyn i weld a yw eu hadeilad yn addas ar gyfer y system wres.

Yn dilyn arolwg o’r adeilad, gall trigolion ofyn am osod y system, sy'n cymryd tri diwrnod.

Mae'n cynnwys y canlynol:

  • pwmp gwres ffynhonnell aer Samsung wedi'i osod yn llawn a'i integreiddio â'ch boeler presennol
  • gwasanaeth rheoli clyfar uwch, porth ar-lein ac ap PassivLiving, i'ch helpu chi i reoli'ch system newydd
  • gwarant saith mlynedd llawn ar gyfer darnau a llafur ar gyfer y system gwresogi hybrid glyfar

Mae cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y cynllun trwy daliadau’r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy Domestig yn cael ei gynnal tan fis Mawrth 2022, gan ostwng cost oes gosodiadau hyd at y dyddiad hwnnw.

Byddai'r gosodiad cyflawn yn costio  £1,610, ynghyd â ffi fisol o £9.90 am saith mlynedd, sy'n cwmpasu'r gwasanaeth rheoli clyfar.  Yn gyffredinol, £2,441.60 byddai cyfanswm y gost, gan gynnwys TAW.

Fodd bynnag, gellid lleihau cyfanswm y gost i oddeutu £830 dros saith mlynedd os yw trigolion yn gwneud cais llwyddiannus am Becyn Gwasanaeth Mesur a Monitro Ofgem, sy'n rhoi hawl i'r ymgeisydd dderbyn £1,610, sy'n cwmpasu cost y gosodiad.

Dywedodd Mr Rose: “Mae gennym bopeth yn ei le er mwyn cydymffurfio’n llawn â’r holl ddeddfwriaeth ynghylch gweithio’n ddiogel yn y cartref. Rydym yn esbonio beth rydym yn mynd ei wneud i gadw trigolion yn ddiogel wrth weithio, a sut byddwn yn ei wneud.

Mae B-Snug yn ddatrysiad delfrydol ar gyfer perchnogion tai sy'n bryderus am gost llenwi eu tanciau storio olew neu LPG, sy'n meddwl am ailosod eu hen foeleri oherwydd eu bod yn poeni am fethiannau neu’r gost atgyweirio, sy'n chwilio am ddewis carbon isel amgen i gynhesu eu cartref ond sy'n cael eu digalonni gan aflonyddwch a chost ailosod eu system bresennol yn llwyr, ac sy'n ceisio gwella eu cysur a chael mwy o reolaeth amser real dros eu gwres.

“Cafodd drigolion a gymerodd ran ym mhrosiect FREEDOM arbedion blynyddol o hyd at £700 ar eu bil ynni.”

Cyflawnwyd y prosiect FREEDOM (Optimeiddio a Rheoli Galw Effeithlonrwydd Ynni Preswyl Hyblyg) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Wales and West Utilities, Western Power Distribution a PassivSystems yn 2018.

Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: “Rwy'n falch iawn o weld y math hwn o dechnoleg yn cael ei gyflwyno yn dilyn y prosiect peilot llwyddiannus iawn ychydig o flynyddoedd yn ôl.

“Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae bron i 3,000 o dai sydd heb eu cysylltu â'r grid nwy, mewn lleoedd o'r cymoedd i Ferthyr Mawr a Chefn Cribwr.

“Mae technoleg fel hon yn hanfodol wrth helpu i ostwng cost biliau ynni a lliniaru tlodi tanwydd wrth hefyd gynorthwyo datgarboneiddio system ynni Pen-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol.

“Bydd ychwanegu ail ffynhonnell tanwydd hefyd yn cynnig mwy o ddiogelwch tanwydd yn ystod cyfnod brig y gaeaf, pan allai cyflenwadau confensiynol tanwydd fod yn broblem yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd oer.”

Pwmp gwres ffynhonnell aer Samsung. Gan: B-Snug

Chwilio A i Y