Mae’r cyngor yn archwilio nifer o opsiynau ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mehefin 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ailgadarnhau ei ymrwymiad tuag at addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl cael ei orfodi i ohirio cynlluniau i adeiladu ysgol newydd dros dro o ganlyniad i oedi wrth ddatblygu safle tai.
O dan Fand B o'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif, roedd y cyngor wedi bwriadu’n wreiddiol gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a gorllewin y fwrdeistref sirol.
Er bod astudiaethau dichonolrwydd ar gyfer y gogledd-ddwyrain a'r gorllewin eisoes ar y gweill, ni all ysgol dwy ffrwd arfaethedig (cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg) ar gyfer y de-ddwyrain, sydd â chysylltiad cynhenid â datblygiad Parc Afon Ewenni yn Llangrallo Isaf, gael ei chyflwyno o fewn amserlen Band B bellach o ganlyniad i oedi o ran datblygu'r safle ar gyfer datblygiad preswyl.
Yn hytrach, mae'r cyngor yn newid ei gynlluniau er mwyn cyflenwi'r ysgol newydd fel rhan o'i gynigion Band C ar gyfer moderneiddio ysgolion.
Er ein bod wedi gorfod gwneud newidiadau i gyflwyniadau ysgol Band B, nid oes unrhyw newid i'n hymrwymiad i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae twf y Gymraeg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r awdurdod lleol, ac mae gwaith yn parhau i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.
Roedd yr ysgol dwy ffrwd arfaethedig, sy'n cynnwys ffrydiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, ym Mharc Afon Ewenni yn cyflwyno cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg o fewn cymuned newydd, ond gan fod datblygiad y safle yn y dyfodol wedi'i ohirio, mae'n bosibl na fydd modd darparu'r ysgol newydd yn y lleoliad hwnnw tan Fand C. Wrth ddod ag adeilad newydd Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ymlaen o Fand C y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif, rydym yn wynebu twf is yn nifer y lleoedd cyfrwng Cymru na'r hyn a gynlluniwyd amdanynt i ddechrau.
Yn anffodus, mae’r broblem adeiladu sylweddol ar safle babanod yr ysgol, a oedd yn golygu nad oedd modd ei ddefnyddio mwyach ar sail iechyd a diogelwch, a'r diffyg cynnydd ar safle Parc Afon Ewenni, yn golygu nad oes llawer o ddewis gennym. Bydd hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ar nifer y lleoedd sydd ar gael i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol. Er y bydd twf o hyd, nid yw bellach cymaint ag y cynlluniwyd yn wreiddiol, felly lle bo hynny'n bosibl, byddwn yn chwilio am gyfleoedd pellach i ddarparu mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg cyn i Fand C y rhaglen gael ei weithredu.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
Ar hyn o bryd, mae'r awdurdod lleol yn creu pedwar prosiect gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol – ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Ogwr – ar ôl derbyn cyllid gwerth £2.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio: “Yn unol â dyheadau Cymraeg 2050 y cyngor, mae arfarniad o'r opsiynau ar y gweill er mwyn datblygu ysgol ‘hedyn’ cyfrwng Cymraeg yn ardal Porthcawl. Mae'n bosibl y gallai'r ysgol hon gael ei gydleoli â'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.
“Mae galw amlwg am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ardal Porthcawl, ac o safbwynt economaidd, byddai cydleoli darpariaeth gofal plant ac ysgol ‘hedyn’ cyfrwng Cymraeg ar un safle yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o gyllid, os yw hynny'n bosibl.
“Yn ogystal, wrth i ddatblygiadau preswyl gael eu nodi trwy broses y Cynllun Datblygu Lleol, efallai y bydd cyfleoedd ar gael i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach mewn ardaloedd lle ceir twf strategol.”