Mae'r cyfnod hunanynysu yn cynyddu i 10 diwrnod ar gyfer pobl sy'n cael canlyniad positif mewn prawf coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 31 Gorffennaf 2020
O heddiw ymlaen, sef dydd Iau 30 Gorffennaf, bydd yn rhaid i bobl sydd wedi cael canlyniad positif mewn prawf coronafeirws hunanynysu am 10 diwrnod yn lle 7 diwrnod.
Mae'r cyfnod 10 diwrnod yn dechrau o'r diwrnod y mae symptomau'n dechrau neu, os ydych yn asymptomatig, o'r diwrnod y cymerir prawf.
Fel o'r blaen, dylid trefnu prawf o fewn pum niwrnod ar ôl i'r symptomau ddechrau. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig: “Mewn pobl symptomatig, mae Covid-19 yn fwyaf heintus ychydig cyn i'r symptomau ddechrau, ac am yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl hynny. Mae'n bwysig iawn bod pobl â symptomau'n hunanynysu ac yn cael prawf, a fydd yn caniatáu olrhain cysylltiadau.
“Mae'r dystiolaeth, er ei bod yn gyfyngedig o hyd, wedi cryfhau ac mae'n dangos bod bosibilrwydd isel ond gwirioneddol fod pobl â Covid-19 sydd ychydig yn sâl ac sy'n gwella yn heintus rhwng saith a naw diwrnod ar ôl i'r salwch ddechrau.
“Rydyn ni wedi ystyried y ffordd orau o dargedu ymyriadau er mwyn lleihau'r risg i'r boblogaeth yn gyffredinol ac rydyn ni o'r farn, ar yr adeg hon yn ystod yr epidemig, gyda phrofion niferus a chyflym ar gael ac wrth ystyried bod mesurau eraill yn cael eu llacio, bod ymestyn y cyfnod hunanynysu o saith i ddeg diwrnod ar gyfer y rhai hynny yn y gymuned sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad prawf positif yn cydbwyso'r risg yn y ffordd gywir.
“Bydd hyn yn helpu i ddarparu diogelwch ychwanegol i eraill yn y gymuned. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn diogelu'r rhai sydd wedi bod yn gwarchod a chyn yr hydref a'r gaeaf, pan fyddwn o bosibl yn gweld mwy o drosglwyddiad cymunedol.”
Dylai unrhyw un sy'n parhau i fod yn sâl neu'n dioddef gyda chwydu, diffyg anadl neu flinder ar ôl saith diwrnod o ddangos symptomau coronafeirws am y tro cyntaf ffonio 111 neu gysylltu â’i feddyg teulu.
Ni fydd angen i'r rheini a oedd yn hunanynysu cyn dydd Iau 30 Gorffennaf barhau am 10 diwrnod, heblaw eu bod yn cael symptomau perthnasol o hyd ar y seithfed diwrnod.
Mae'r cyfnod hunanynysu o 14 diwrnod ar gyfer cysylltiadau achosion yn aros yr un fath.
Yr eithriad i’r rheol hunanynysu 10 diwrnod ar gyfer achosion positif yw ar gyfer cleifion ysbyty a thrigolion cartrefi gofal, lle mae cyfnod hunanynysu o 14 diwrnod yn parhau i fod yn berthnasol.
Dylai cysylltiadau pobl â symptomau sy’n rhannu’r un cartref barhau i hunanynysu am 14 diwrnod – os yw cyswllt yn yr un cartref yn datblygu symptomau yn ystod y cyfnod hwn, dylai hunanynysu am 10 diwrnod o'r diwrnod y dechreuodd y symptomau, ac, fel o'r blaen, dylid trefnu prawf o fewn 5 diwrnod o ddechrau'r symptomau.
Y cyfnod hunanynysu ar gyfer pobl nad ydynt yn dangos symptomau ond sydd wedi'u nodi fel rhai positif trwy brofi/sgrinio, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr allweddol eraill, fydd 10 diwrnod o ddiwrnod y prawf positif. Os bydd symptomau'n datblygu yn ystod y cyfnod hunanynysu hwn o 10 diwrnod, dylent hunanynysu am 10 diwrnod o'r diwrnod cyntaf y mae'r symptomau'n dechrau.
Dylai cysylltiadau agos achosion a gadarnhawyd barhau i hunanynysu am 14 diwrnod – os yw cyswllt agos achos a gadarnhawyd yn datblygu symptomau yn ystod y cyfnod hwn, dylai hunanynysu am 10 diwrnod o'r diwrnod y dechreuodd y symptomau, ac, fel o'r blaen, dylid trefnu prawf o fewn pum diwrnod o ddechrau'r symptomau.
Dywedodd Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig y byddent yn parhau i adolygu'r holl dystiolaeth.
Am ragor o fanylion, ewch i wefan Llywodraeth Cymru