Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae’r broses cofrestru am wasanaeth casglu gwastraff gardd wedi dechrau

Byddwch wyrdd gyda chasgliadau ailgylchu gwastraff gardd

Gall garddwyr gofrestru erbyn hyn am wasanaeth casglu gwastraff gardd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dychwelyd y gwanwyn hwn.

Bydd y casgliadau pythefnosol yn ei gwneud yn bosibl i ailgylchu gwastraff gardd megis planhigion, blodau, chwyn, glaswellt, dail a thorion perthi hefyd.

Bydd casgliadau yn dechrau dydd Llun 19 Mawrth ac yn para drwy gydol y prif dymor tyfu tan ddydd Gwener 16 Tachwedd. Gall trigolion gofrestru am y gwasanaeth tymhorol am £28 y cartref, ac mae cyfradd ostyngedig ar gael i bensiynwyr - £24.

Ar ôl cadarnhau’r taliad, caiff bob cartref ddau sach ailddefnyddio ar gyfer gwastraff gardd a gaiff ei gasglu wrth ymyl y ffordd bob pythefnos ar yr un diwrnod â’r bagiau bin.

Mae’r ffi tanysgrifio yn cynnwys casglu dau fag gwastraff gardd - caiff unrhyw gartref sy’n dymuno gallu rhoi rhagor o fagiau gwastraff gardd wneud hynny drwy dalu £5 arall am bob bag ychwanegol.

Mae’r cynllun cyfleus hwn yn cael ei weithredu gan ein partneriaid ailgylchu Kier ac mae’r holl wastraff gardd a gesglir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei anfon i gwmni Cowbridge Compost a’i droi yn wrtaith compost.

Cofrestrodd ychydig dros 3,600 ar y cynllun y llynedd, sef 800 yn fwy na 2016. O ganlyniad i gynifer o gartrefi ychwanegol yn cofrestru ar y cynllun, ailgylchwyd 38 y cant yn fwy o wastraff gardd yn hytrach na’i anfon i’r safle tirlenwi.

Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: “Mae pobl yn aml yn gofyn pam y mae’n rhaid i drigolion dalu am y cynllun casglu gwastraff gardd. Yr ateb yw achos nad oes gardd gan bob cartref yn y fwrdeistref sirol, felly rydym ni’n credu ei bod yn decach i’w wneud yn gynllun dewisol er mwyn i’r cartrefi sydd eisiau defnyddio’r casgliadau hynny allu dewis talu amdanynt.”

Mae’n bosibl cofrestru ar-lein erbyn hyn ar gyfer ein cynllun #ailgylchu gwastraff o’r ardd, casgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol (bagiau porffor) a gwastraff swmpus. Rhowch eich cod post yma, dewch o hyd i’ch cyfeiriad, yna dewiswch y gwasanaeth yr ydych yn ei ddymuno.

Gall trigolion gofrestru a thalu am y cynllun casglu gwastraff gardd drwy ffonio 01656 643643 a dewis 2 am wastraff.

Awgrymir bod unrhyw drigolion sy’n cofrestru ar y cynllun eleni a bod ganddynt fagiau gwastraff gardd eisoes, yn ailddefnyddio’r rhain i arbed dosbarthu rhai newydd. A wnewch chi nodi hyn wrth gofrestru.

Gellir mynd â gwastraff gardd i’r domen wastraff yng nghanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Llandudwg, Ystad Ddiwydiannol Brynmenyn ac Ystad Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn ym Maesteg. I gael rhagor o fanylion am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch yma.

Chwilio A i Y