Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae Profi Olrhain Diogelu nawr ar waith ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Profi Olrhain Diogelu nawr ar waith ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda'r holl breswylwyr a gweithwyr allweddol o fewn yr ardal sy'n dangos symptomau o coronafeirws yn cael eu hannog i wneud cais am brawf.

Mae Profi Olrhain Diogelu yn agwedd allweddol o gynllun adferiad Covid-19 Llywodraeth Cymru, yn helpu i ddarganfod ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â'r feirws, wrth leihau ei ledaeniad.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal Profi Olrhain Diogelu ar gyfer pobl y rhanbarth – gan olrhain cysylltiadau pobl sy'n profi'n bositif am coronafeirws, a chynnig cyngor iechyd y cyhoedd a phrofion pellach i'r bobl hynny y maent wedi bod mewn cysylltiad â nhw os ydynt yn arddangos symptomau.

Nod Profi Olrhain Diogelu yw ynysu coronafeirws rhag ein cymunedau, gan amddiffyn teulu, ffrindiau a chymdogion, ac aros un cam ar y blaen er mwyn atal heintiad eang o fewn ein hardal leol.

Mae cyflwyno Profi Olrhain Diogelu yn cyd-fynd â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod cyfyngiadau'r cyfnod clo yn dechrau cael eu llacio ar 1 Mehefin er mwyn caniatáu i aelodau o ddwy aelwyd gyfarfod y tu allan, cyn belled â'u bod yn aros yn 'lleol' ac yn cynnal pellhau cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i sicrhau ein bod yn barod i amddiffyn trigolion rhag coronafeirws wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, fel y gall pobl ddechrau bwrw ymlaen â'u bywydau, gweld eu hanwyliaid, a dechrau ailadeiladu eu bywoliaeth.

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae Profi Olrhain Diogelu yn rhoi offeryn i ni reoli trosglwyddiad coronafeirws yn effeithiol, a cheisio sicrhau nad oes ganddo unlle i guddio ac achosi niwed. Mae wedi cael ei greu gyda'r unig nod o atal lledaeniad coronafeirws, ac rwy'n annog yr holl drigolion i ymgysylltu'n llawn â'r broses. Nid yw wedi cael ei greu i ddal pobl allan o ran eu lleoliad neu bwy y maent wedi bod mewn cyswllt â nhw, po fwyaf agored a gonest gyda systemau olrhain cyswllt y bydd pobl, y cyflymaf y gallwn drechu coronafeirws a dychwelyd i'r ffordd flaenorol o fyw ein bywydau.

Bydd llawer yn croesawu llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo, ond mae'r camau pwyllog hyn tuag at ryw fath o normalrwydd yn golygu bod yn rhaid inni fod hyd yn oed yn fwy ymwybodol o gynnal mesurau pellhau cymdeithasol, a fydd yn parhau am beth amser i ddod. Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig ydyw i bobl gydymffurfio â'r mesurau pellhau cymdeithasol, fel cadw dau fetr oddi wrth ei gilydd a golchi'u dwylo'n rheolaidd. Mae coronafeirws yn heintus dros ben, rydym wedi gweld pa mor gyflym y gall ledaenu, yn cael effeithiau dinistriol ar bawb. Fodd bynnag, mewn partneriaeth â thrigolion a chefnogaeth ein cymunedau, gall bob un ohonom chwarae rhan hollbwysig wrth gael gwared â'r feirws hwn.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David

Dywedodd yr aelod cabinet dros lesiant a chenedlaethau'r dyfodol, Dhanisha Patel: "Hyd yn oed o ganlyniad i gyflwyno Profi Olrhain Diogelu a llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo, mae'n bwysicach nag erioed i breswylwyr lynu at reolau pellhau cymdeithasol, fel cadw dau fetr oddi wrth bobl nad ydych yn rhannu cartref â nhw, golchi eich dwylo yn aml, gweithio o gartref os yw'n bosibl, osgoi trafnidiaeth gyhoeddus ac ardaloedd lle mae'n anodd pellhau'n gymdeithasol, yn ogystal â hunan-ynysu ac archebu prawf os ydych yn dangos symptomau.

"Gall cynnydd sylweddol mewn achosion coronafeirws lethu'r strategaeth Profi Olrhain Diogelu, gan gynyddu'r pwysau ar y GIG, ac o bosibl, achosi i gyfyngiadau'r cyfnod clo dynhau - nid oes unrhyw un eisiau hynny ar ôl yr aberth bersonol ryfeddol y mae trigolion wedi'i wneud dros y misoedd blaenorol, sydd wedi dod â ni i'r lle rydym nawr.

"Mae olrhain cysylltiad yn golygu y gellir gofyn i bobl hunan-ynysu sawl gwaith, oherwydd po fwyaf aml mae pobl yn dod i gysylltiad ag eraill, y mwyaf tebygol ydyw y bydd angen iddynt hunan-ynysu, fodd bynnag, bydd hyn yn hanfodol i dorri trosglwyddiad coronafeirws."

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lu o gymorth ar gael i gynorthwyo pobl sy'n hunan-ynysu os bydd angen, a darperir gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bawb sydd angen hunan-ynysu o ganlyniad i brofi'n bositif am coronafeirws.

Am ragor o wybodaeth ynghylch olrhain cysylltiadau.

Chwilio A i Y