Mae pedwar digwyddiad gwych yn dod i ganol y dref Pen-y-bont yr haf yma
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Gorffennaf 2018
Cliriwch eich dyddiaduron ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau gwych AM DDIM yng nghanol y dref Pen-y-bont yr haf yma.
O Sioe Dinosoriaid i blant bach, i Ŵyl Stryd Roots, bydd rhywbeth i bawb yr haf yma yn y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a’r grŵp CF31 Bid.
Sioe Geir Glasurol – 21 Gorffennaf, 10am – 4pm:
Bydd y sioe geir glasuron flynyddol yn cynnwys cymysgedd o geir clasurol o’r 50au, 60au a’r 70au. Bydd y digwyddiad am ddim hwn i deuluoedd hefyd yn cynnwys adloniant am ddim, a bydd y farchnad stryd fisol a ffair grefftau’r farchnad dan do yn cael eu cynnal yr un diwrnod.
Sioe Dinasoriaid – 9 Awst, 11am – 5pm:
Ar ôl bod yn llwyddiant ysgubol yn y gorffennol, mae’r Sioe Dinosoriaid yn dod ôl i ganol y dref. Gallwch ddechrau eich antur yn gwylio'r dinosoriaid animatronig realistig, yna’r pypedau rhyngweithiol bach ac archwilio ffosilau cyffrous.
Sound of Summer gyda Bridge FM – 11 Awst – 1 Medi, 11am – 4pm:
Bydd y strydoedd yn llawn cerddoriaeth bob penwythnos tan 1 Medi, gyda pherfformiadau gan egin gerddorion. Yna bydd pob perfformiwr yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth i ennill y cyfle i berfformio yng ngŵyl stryd Roots.
Gŵyl Stryd Roots – 15 Medi, 11am – 8pm:
Ochr yn ochr â cherddoriaeth fyw wych, bydd amrywiaeth o weithdai ar gael, gweithgareddau i’w mwynhau, perfformiadau syrcas i’w gweld a bwyd rhyngwladol bendigedig i'w flasu.
Bydd hi’n haf gwych gyda’r digwyddiadau hyn, gyda chymaint o wahanol bethau i’w gweld a’u gwneud yn ystod y misoedd nesaf. Cofiwch hefyd y gallwch barcio am ddim am yr awr gyntaf ym maes parcio Rhiw.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio
I gael rhagor o wybodaeth ar bob digwyddiad, neu i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau yng nghanol y dref Pen-y-bont, ewch i wefan grŵp bid Birdgend y CF31.