Mae Parc Gwledig Bryngarw yn cymryd canol y llwyfan ar gyfer theatr awyr agored yr haf yma
Poster information
Posted on: Dydd Llun 14 Mai 2018
Mae Parc Gwledig Bryngarw ym Mrynmenyn, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn bwriadu llwyfannu chwe digwyddiad theatr awyr agored yr haf yma.
Mae'r tymor yn dechrau gyda chynhyrchias Theatr Immersion o Peter Pan am 5.30yp ar Ddydd Mercher 25 Gorffennaf. Eye-catching costumer, toe-tapping music and larger-than-life characters, including the Darling children, the lost boys, the cheeky Tinkerbell, the hilarious Smee, and the infamous Captain Hook, promise to capture the imaginations of young children and nostalgic adults alike.
Ar Ddydd Mercher 1 Awst am 3yp, mae Theatr Quantum yn dychwelyd i Fryngarw gyda'i addasiad o gynhyrchiad Kenneth Grahame, The Reluctant Dragon - stori deimladwy, annwyl a doniol o ddewrder a chyfeillgarwch i'r holl deulu.
Unwaith eto bydd perfformiad Shakesperaidd Bryngarw yn cael ei ddarparu gan Gwmni Theatr Rain or Shine, gyda'u cynhyrchiad o Much Ado About Nothing ar ddydd Mercher 8fed Awst am 8pm. O'r Don John llwfr, i'r Sarsiant Dogberry twp, bydd ‘Much Ado About Nothing’ yn cyflwyno dathlwyr, dynion drwg a rhamant.
Bydd Little Blue Monster yn dychwelyd am ail flwyddyn gyda'i gynhyrchiad newydd sbon Pirate Pearl and the Big Blue Monster am 2yp ar Ddydd Mawrth 14 Awst. Wedi'i hanelu at gynulleidfaoedd iau, mae'r sioe yn adrodd hanes Pearl, merch fach sy'n hoffi dychmygu ei bod hi'n hwylio'r Saith Fôr ar daith anturus gyda môr-ladron!
Yn dilyn perfformiad llwyddiannus (a gwlyb) llynedd o 'Billionaire Boy', mae Heartbreak Productions yn dychwelyd i'r parc am 7yh ar 15fed Awst gyda ffefryn teuluol arall, Pride and Prejudice. Bydd y perfformiad yn cynnwys y chwiorydd Bennet ac amryw o ddynion sengl dymunol mewn noswaith o gomedi, rhamant, a chosbau haeddiannol wrth inni ddysgu sut i ymddwyn, ahem, yn gywir.
Ar 22ain Awst am 6yp, bydd Heartbreak Productions yn dychwelyd i'r parc gyda'i addasiad o lyfr llwyddiannus David Walliams, The Midnight Gang. Ar antur hanfodol i oresgyn ofnau mwyaf a datgelu'r cynhwysion hudol cyfeillgarwch gwych, mae sioe olaf tymor yr haf yn berffaith i'r rhai sy'n mwynhau hud, camymddwyn, a gwneud atgofion.
Mae ein rhaglen o theatr awyr agored ym Marc Gwledig Bryngarw yn fwy llwyddiannus bob blwyddyn. Drwy gynnig rhywbeth i bobl o bob oedran a gyda phob math o ddiddordebau, gobeithiwn annog rhagor o deuluoedd i fwynhau amser yn yr awyr agored a gwerthfawrogi'r dreftadaeth naturiol sydd ar stepen ein drws. Gwahoddir ein cynulleidfaoedd i ddod â matiau a blancedi gyda nhw, pacio picnic a mwynhau amgylchoedd hardd Bryngarw, wrth fwynhau'r sioeau.
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy'n rhedeg Parc Gwledig Bryngarw
Bydd y digwyddiadau hyn yn cymryd lle tu allan ac yn digwydd yn y glaw neu'r haul. Nid oes seddi yn y Parc, ond croeso i ymwelwyd ddod â chadeiriau â chefnau isel neu flancedi i'w heistedd arnynt. Croesawir picniciau, neu gellir prynu lluniaeth gan Ystafell De Cedars. Rhaid i blant gael eu hebrwng drwy'r amser.