Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae’n rhaid i glybiau weithio â’r cyngor i achub chwaraeon cymunedol

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno na all yr awdurdod fforddio rhoi cymhorthdal ar gyfer pafiliynau a meysydd chwaraeon a chaeau chwarae mwyach. Mae hyn ar ôl ‘degawd o ddioddef toriadau a chael ein gorfodi i osod cyllidebau caledi’.

Ond, mae aelodau o’r Cabinet wedi pwysleisio bod y cyngor eisiau gweithio ochr yn ochr â chlybiau a defnyddio eu rhaglen trosglwyddo asedau i achub chwaraeon cymunedol.

Mae’r awdurdod yn rhoi cymhorthdal o hyd at 80% i gyfleusterau chwaraeon ar hyn o bryd. Er bydd y cynnydd mewn ffioedd a’r symudiad tuag at adennill costau llawn yn dechrau yn 2020, mae’r awdurdod wedi addo mai dim ond ar glybiau sydd ddim yn dymuno cymryd rhan yn y broses trosglwyddo asedau cymunedol y bydd hyn yn effeithio.

Ers cyhoeddiad y cyngor, maent wedi cadarnhau eu bod wedi symleiddio’r broses trosglwyddo asedau cymunedol. Hefyd, mae'r cyngor ar wahanol gamau trafod â'r holl glybiau chwaraeon lleol ond un, ynghyd â’r mwyafrif o gynghorau tref a chynghorau cymuned.

Mae un trosglwyddiad o £500,000 wedi’i gwblhau. Mae wyth yn barod i gael eu llofnodi, mae 18 yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac mae’r cyngor wedi derbyn mwy na 20 datganiad o ddiddordeb.

Mae’r broses trosglwyddo asedau, sy’n galluogi clybiau a sefydliadau eraill i reoli cyfleusterau lleol yn uniongyrchol, wedi profi i fod yn hynod lwyddiannus yng Nghlwb Rygbi Bryncethin lle yma mae wedi arwain at adnewyddu’r pafiliwn, cyfleusterau newydd i’r gymuned, a llawer iawn mwy.

Mae cyllideb o £1m ar gael i gefnogi’r broses trosglwyddo. Hefyd, mae aelodau o’r Cabinet wedi cytuno i gynnig sefydlu cronfa pontio newydd o tua £75,000 y flwyddyn i gefnogi’r timau plant ieuengaf, timau’r plant ifanc, a thimau’r plant hŷn sy’n cyfrif am ddwy ran o dair o’r holl glybiau chwaraeon lleol.

Does neb eisiau bod yn y sefyllfa yma ond nid yw’n ddigon i roi eich pen yn y tywod a dweud ‘Rydw i eisiau i bethau aros yr un fath’ heb gyflwyno cynllun amgen hyfyw a realistig. A does neb wedi cyflwyno cynllun o’r fath hyd yma. Y realiti yw, oni bai ein bod ni’n gwneud rhywbeth nawr, bydd y cyfleusterau yn dechrau cau mewn blwyddyn, a bydd chwaraeon cymunedol fel y mae ar hyn o bryd yn dechrau dod i ben.

Mae’n golygu dod o hyd i ddatrysiad tymor hir cynaliadwy, a fydd yn gwarchod chwaraeon cymunedol mewn cyfnod o galedi cenedlaethol sydd eisoes wedi ein gorfodi i ddelio â diffyg o £27m yn yr arian rydyn ni’n ei dderbyn ac yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau lleol. Rydyn ni’n cydymdeimlo â’r clybiau a’r bobl sy’n defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon. Hoffem petai’r sefyllfa’n wahanol ond y realiti yw ein bod yn wynebu diffyg o £36m dros y pedair blynedd nesaf.

Ar ôl degawd o ddioddef toriadau a chael ein gorfodi i osod cyllidebau caledi, a gyda hyd yn oed mwy o ddiffyg cyllid o’n blaenau, ni allwn fforddio parhau i roi cymorthdaliadau o hyd at 80%. Ond rydyn ni ar dân ac yn fodlon ymgysylltu â chlybiau lleol, cynghorau tref a chymuned, a sefydliadau eraill, ac rydym yn parhau i fod yn hyblyg iawn o ran sut gallwn gydweithio i wynebu’r her yma.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Ni fydd unrhyw glwb sydd wedi ymrwymo i’r broses trosglwyddo asedau cymunedol yn gorfod talu’r ffioedd newydd pan fyddant yn dechrau ym mis Medi 2020.

“Bydd rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau wrth flaenoriaethu cefnogi plant a phobl hŷn sy’n agored i niwed. Ond, ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hun.

“Rydyn ni angen i glybiau, cynghorau tref a chymuned, a sefydliadau eraill ddod i siarad â ni, i ddysgu mwy am y broses trosglwyddo asedau, ac i edrych ar ffyrdd y gallant ei defnyddio a manteisio ar y cyllid sydd ar gael i chwarae rôl fwy canolog o ran rheoli a darparu cyfleusterau chwaraeon cymunedol.

“Os bydd yr holl glybiau a sefydliadau yn defnyddio’r broses trosglwyddo asedau, yna ni fydd neb yn wynebu’r costau llawn ar gyfer defnyddio a chynnal cyfleusterau lleol, a gallwn sicrhau y bydd chwaraeon cymunedol yn parhau i ffynnu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”

Chwilio A i Y