Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae mwy na 112,000 o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu brechlynnau Covid-19

Mae mwy na 112,000 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi cael brechlyn yn erbyn Covid-19 wrth i'r gwaith barhau i frechu oedolion 40-49 oed sydd o fewn grŵp blaenoriaeth 10.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod llythyrau apwyntiad wedi’u hanfon i'r holl bobl yn y grŵp oedran hwn.

Mae'r ystod oedran ar gyfer pobl sy'n dymuno gwneud cais i gael brechlynnau wrth gefn ar fyr rybudd hefyd wedi'i hymestyn, ac mae bellach yn cynnwys preswylwyr sy'n 25 oed neu'n hŷn.

Mae'r cynnig, sydd ar gael i bobl sy'n gallu mynd i apwyntiad brechu Covid-19 o fewn awr i gael eu hysbysu, wedi'i sefydlu i sicrhau nad yw brechiadau'n mynd i wastraff oherwydd pobl yn canslo neu ddim yn mynychu eu hapwyntiad.

Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y gall pobl ei llenwi i gael eu hychwanegu at restr wrth gefn.

Mae gwefan Cwm Taf hefyd yn cynnwys ffurflen y gall pobl ei llenwi os oes angen iddynt ganslo neu aildrefnu apwyntiad.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i wirio a ydych yn gymwys i ymuno â’r rhestr wrth gefn, llenwch y ffurflen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio A i Y