Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae mwy na 105,000 o drigolion wedi cael eu brechlynnau Covid-19

Mae mwy na 105,000 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi derbyn brechlyn rhag Covid-19 wrth i'r gwaith barhau ar frechu oedolion 40-49 oed sydd o fewn grŵp blaenoriaeth 10.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod llythyrau apwyntiad wedi’u rhoi i'r mwyafrif o bobl o fewn y grŵp oedran hwn. Dylai unrhyw un sydd heb dderbyn llythyr gael un yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gall pobl rhwng 35 a 39 oed hefyd wneud cais i dderbyn brechlynnau wrth gefn ar fyr rybudd.

Mae'r cynnig, sydd ar gael i bobl sy'n gallu mynd i apwyntiad brechu Covid-19 o fewn awr i gael eu hysbysu, wedi'i sefydlu i sicrhau nad yw brechiadau'n mynd yn wastraff wrth o bobl ganslo neu beidio mynychu eu hapwyntiad.

Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y gall pobl ei llenwi i gael eu hychwanegu at restr wrth gefn.

Mae gwefan Cwm Taf hefyd yn cynnwys ffurflen y gall pobl ei llenwi os oes angen iddynt ganslo neu aildrefnu apwyntiad.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wirio a ydych yn gymwys i ymuno â’r rhestr wrth gefn, llenwch y ffurflen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio A i Y