Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae modd i ddisgyblion cymwys wneud cais am docyn bws ysgol ar-lein

Mae modd i deuluoedd plant a fydd yn gymwys i gael tocyn bws ysgol pan fyddan nhw'n cychwyn ym mlwyddyn saith yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi wneud cais ar-lein nawr.

Dyma'r tro cyntaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnig y broses o wneud cais ar-lein, a hynny fel rhan o'i ymgyrch i'w gwneud yn fwy effeithlon a hwylus i drigolion gael mynediad at wasanaethau'r cyngor.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd y cyngor at deuluoedd y disgyblion sydd yn gymwys i dderbyn tocyn bws ysgol. I wneud cais am docyn, rhaid i rieni a gwarcheidwaid gofrestru gyda'r adran 'Fy Nghyfrif' ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, www.bridgend.gov.uk a hynny drwy ddarparu cyfeiriad e-bost.

Ar ôl cofrestru, bydd modd iddyn nhw lenwi'r ffurflen ar-lein cyn llwytho llun ID i fyny a fydd yna'n ymddangos ar y tocyn bws. Mae gwefan y cyngor hefyd yn cynnwys manylion am lwybrau'r bysiau ysgol ynghyd â mannau codi disgyblion.

Er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn cael eu tocyn bws mewn da bryd ar gyfer y tymor ysgol newydd, awgrymir bod rhieni a gwarcheidwaid yn cyflwyno eu ceisiadau erbyn dydd Gwener 9 Awst.

Bydd tua 1,000 o'r disgyblion newydd sy'n symud i fyny i flwyddyn saith ym mis Medi yn gymwys i gael tocyn bws, felly bydd cyflwyno ceisiadau ar-lein ar gyfer y disgyblion hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio llai o lawer o bapur. Bydd hefyd yn cyflymu'r broses gan y byddwn yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom yn electronig.

Datblygwyd yr adran 'Fy Nghyfrif' ar gyfer ein gwefan yn dilyn adborth gan drigolion a oedd yn dweud eu bod nhw eisiau i'r awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau ar-lein gwell, cyflymach a mwy rhyngweithiol.

Mae 'Fy Nghyfrif' hefyd yn caniatáu i drigolion reoli eu cyfrifon treth cyngor, cadw golwg ar eu budd-daliadau tai, a gwneud ceisiad am drwyddedi parcio. Cafodd ei ddefnyddio'n effeithiol iawn eleni ar gyfer ceisiadau derbyniadau i'r ysgol. Bydd rhagor o wasanaethau ar gael ar-lein yn fuan.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Mae modd i ddisgyblion uwchradd cymwys sydd wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw wneud cais am docyn bws ysgol arall wneud hynny ar-lein. Mae modd i unrhyw un sydd heb fynediad at y rhyngrwyd ofyn i ffurflen gais am docyn bws gael ei phostio atyn nhw drwy ffonio'r cyngor ar 01656 643643.

Chwilio A i Y