Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae meysydd parcio canol y dref yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl chwech

Fel rhan o'i gymorth i economi gyda'r nos lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa ymwelwyr a siopwyr bod y mwyafrif o feysydd parcio canol y dref sy'n cael eu cynnal gan y cyngor yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl 6pm.

Gyda siopau'n cynnig oriau busnes estynedig hyd at y Nadolig, sawl busnes newydd yn agor eu drysau a nifer o fwytai, tafarndai a chlybiau nos ar gael, mae nifer o feysydd parcio Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ar gael gyda mynediad 24 awr.

Yng Nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r maes parcio awyr agored mawr yn Stryd Bracla (tu ôl i Wilkinsons) a meysydd parcio mewn lleoliadau megis Heol Tremains, Heol Tondu a Chanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl 6pm, ond mae rhwystr ym maes parcio aml lawr y Rhiw yn cau a rôl 7pm i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ym Mhorthcawl, mae meysydd parcio sy'n cael eu cynnal gan y cyngor yn John Street a Hillsboro Place yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl 6pm, ac mae parcio rhad ac am ddim ar gael ar hyd glan y môr. Mae parcio rhad ac am ddim hefyd ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg a’r maes parcio yn Ffordd Penprysg ac Alyson Way ym Mhencoed.

Mae'r economi gyda'r nos yr un mor bwysig i ganol trefi ag ydi masnach yn ystod y dydd, ond mae'n arbennig o wir yn ystod cyfnod yr ŵyl wrth i bobl siopa am anrhegion neu gael pryd o fwyd neu noson allan i ddathlu.

Yn ogystal â digon o le i barcio yn rhad ac am ddim ar ôl 6pm mewn sawl maes parcio sy'n cael eu cynnal gan y cyngor a pharcio rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn ym Maesteg a Phencoed, gall pobl sy'n ymweld â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn ystod y dydd fanteisio hefyd o gynnig arbennig sy'n mynd rhagddo sydd wedi ei ymestyn hyd at ddiwedd Ebrill 2023.

Mae’r cynnig yn golygu y gall gyrwyr barcio am ddim am hyd at dair awr ym maes parcio aml-lawr Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm ym maes parcio Stryd John ym Mhorthcawl.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio:

Chwilio A i Y