Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae hen doiledau cyhoeddus, cartref gofal a swyddi cyngor tref wedi cael eu gwerthu mewn arwerthiant am £736,000 – mwy na £250,000 yn fwy na'u pris cadw

Cafodd hen adeilad toiledau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, hen gartref gofal ym Maesteg ac adeilad pedwar llawr ym Mhorthcawl – a oedd yn arfer bod yn swyddfeydd cyngor – eu gwerthu mewn arwerthiant diweddar am gyfanswm o £736,000.

Gwerthwyd yr hen gyfleusterau toiledau yn Heol Derwen am £61,000 (mwy na dwywaith eu pris cadw), prynwyd cartref gofal 30 ystafell wely Hyfrydol ym Maesteg am £410,000, a gwerthwyd yr hen swyddfeydd cyngor tref yn Victoria Avenue, Porthcawl, am £265,000.

Roedd cyfanswm yr arian cyfalaf ymhell dros ein disgwyliadau, a'r pris cadw yn £453,000. Mae'n newyddion rhagorol gan ei bod yn golygu y byddwn yn cynhyrchu arian cyfalaf sydd ei fawr angen ac yn lleihau ein rhwymedigaethau parhaus. Bydd yr arian yn helpu i dalu tuag at ein rhaglen gyfalaf, sy'n cynnwys rhaglen foderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif lle rhagwelir y bydd ysgolion Band B yn costio tua £68 miliwn.

Roedd gwerthu Hyfrydol yn rhan o'r achos busnes ar gyfer y cyfleuster gofal ychwanegol newydd ym Maesteg, tra oedd Cyngor Tref Porthcawl yn symud i leoliad mwy addas yng nghanol y dref y llynedd. Bydd tai bach newydd yn agor cyn hir yn y farchnad dan do mewn partneriaeth rhwng Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr â’r gymdeithas masnachwyr marchnad, ac mae toiledau o hyd hefyd yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae hyn i gyd yn rhan o'n cynllun rheoli asedau hirdymor lle rydym, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn ailfodelu gwasanaethau ac yn gwerthu'r asedau hynny nad oedd eu hangen mwyach.

Hywel Williams, dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y mae ei bortffolio yn cynnwys eiddo

Cafodd y tri safle eu gwerthu gan arwerthwyr Paul Fosh ar 6 Chwefror yng Nghaerdydd.

Yr hen adeilad toiledau cyhoeddus yn Heol Derwen, Pen-y-bont ar Ogwr. Credyd: Paul Fosh Auctions
Yr hen gartref gofal Hyfrydol ym Maesteg. Credyd: Paul Fosh Auctions
Hen swyddfeydd Cyngor Tref Porthcawl yn Victoria Avenue. Credyd: Paul Fosh Auctions

Chwilio A i Y