Mae gwefan Bugail Digidol yn dysgu am bwysigrwydd pori er budd cadwraeth
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Chwefror 2019
Mae gwefan newydd wedi'i chreu i helpu plant i ddysgu sut mae rheoli pori gan wartheg, defaid a cheffylau yn chwarae rôl allweddol mewn cadw bioamrywiaeth yn ein cefn gwlad.
Mae pori er budd cadwraeth yn helpu i reoli unrhyw blanhigion ymosodol a goresgynnol, ac yn creu cynefinoedd sy'n annog peillwyr, adar sy’n nythu ar y ddaear, gloÿnnod byw a rhywogaethau eraill i ffynnu.
Wedi'i datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'i hariannu gan grantiau Ewropeaidd, mae gwefan newydd 'Bugail Digidol' yn llawn cynlluniau dosbarth ac adnoddau y gall ysgolion eu defnyddio i addysgu disgyblion o bob oed, o blant bach i laslanciau, ynglŷn â phwysigrwydd pori er budd cadwraeth.
Mae'r wefan hefyd yn esbonio sut y dylai pobl ymddwyn yn fwy cyfrifol ymysg da byw.
Pan ydych allan yn yr ardal leol yn ymweld â gwarchodfeydd natur neu fannau gwyrdd eraill, efallai y dewch o hyd i dda byw sy'n pori, heb sylweddoli pwysigrwydd pam eu bod yno. Mae dirywiad ecosystemau yn un o'r heriau mwyaf a wynebwn yn y byd heddiw. Mae rheoli pori er budd cadwraeth yn hanfodol er mwyn gwrthdroi'r dirywiad hwnnw, felly rwy'n falch o weld bod yr adnoddau ar-lein newydd hyn ar gael, sy'n addas i athrawon eu defnyddio o'r Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 5.
Rwy'n siŵr y bydd athrawon yn credu ei fod yn bwnc diddorol i'w ddysgu i blant iau, tra gall disgyblion hŷn archwilio bioleg ecosystemau i fwy o ddyfnder. Hoffwn hefyd i'r holl drigolion fod yn ymwybodol fod nifer o reolau i'w dilyn ymysg yr anifeiliaid hyn er mwyn galluogi pori er budd cadwraeth mewn safleoedd megis Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Yn gyntaf, rhowch gŵn ar dennyn a chliriwch unrhyw faw ci. Hefyd, peidiwch â gadael sbwriel gan y gallai gael ei fwyta gan yr anifeiliaid, neu gallai’r pecynnau eu niweidio.
Mae hefyd yn bwysig iawn i beidio â chyffwrdd y da byw neu eu bwydo, ac i beidio â chynnau tanau yn y cyffiniau. Dylid parchu ffiniau wedi eu ffensio a pheidiwch â gyrru beiciau modur neu feiciau cwad wrth ymyl yr anifeiliaid. Mae’n rhaid i anifeiliaid a phlanhigion gael anifeiliaid a phlanhigion eraill i'w helpu i oroesi a ffynnu. Mae eu hangen nhw arnom ni hefyd, felly gofalwch am ein cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Gallwch weld gwefan 'Bugail Digidol' ar gwefan Bridgend Reach.
Datblygwyd y prosiect gan Dîm Datblygu Gwledig ‘Reach’ Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor mewn partneriaeth â Meddwl, Dysgu, Herio. Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid o £13,000 drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae 21 o wardiau gwledig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gymwys am gyllid datblygu gwledig. Os oes gennych syniadau ar gyfer eich cymuned wledig yr hoffech eu datblygu, ewch i gwefan Bridgend Reach neu e-bostiwch reach@bridgend.gov.uk am wybodaeth bellach.