Mae gwasanaethau Fy Nghyfrif ar gyfer trigolion yn newid
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021
Mae trigolion sy'n defnyddio gwasanaeth Fy Nghyfrif Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael mynediad i'w cyfrifon treth gyngor a budd-daliadau tai wedi cael gwybod na fyddant bellach yn gallu cael gafael ar eu manylion drwy'r platfform presennol o ddydd Sul 28 Mawrth 2021.
Ni fydd y gwasanaeth ar-lein presennol ar gyfer budd-daliadau'r dreth gyngor a thai ar gael am 10 diwrnod tra bydd y cyngor yn newid i blatfform newydd.
Er na fydd preswylwyr yn gallu cofrestru eu cyfrifon treth gyngor neu fudd-daliadau tai tan 7 Ebrill 2021 ar y platfform newydd, gallant sefydlu cyfrif o ddydd Llun 29 Mawrth i barhau i gael mynediad at wasanaethau ar-lein eraill.
Oherwydd bod ein darparwr presennol yn tynnu ei wasanaethau yn ôl, rydym yn newid i blatfform digidol newydd a fydd yn y pen draw yn cynnig ystod ehangach o swyddogaethau ar-lein i drigolion. Gall defnyddwyr sy'n ymuno â'r platfform newydd barhau i ddefnyddio'r un gwasanaethau fel y dreth gyngor, budd-daliadau tai, derbyniadau i ysgolion, taliadau hunanynysu, trwyddedau parcio preswyl a chludiant i'r ysgol.
Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio ychwanegu gwasanaethau eraill fel rhoi gwybod am faterion priffyrdd, gan gynnwys tyllau yn y ffordd a goleuadau stryd, materion amgylcheddol, rheoli plâu, cofrestryddion a mwy.
Mae ail-gofrestru eich cyfrif yn hawdd ac ond yn cymryd ychydig funudau. Rydym yn argymell bod defnyddwyr presennol Fy Nghyfrif yn defnyddio'r un cyfeiriad e-bost i greu eu cyfrif newydd. Anfonir dolen atoch i blatfform newydd Fy Nghyfrif unwaith y caiff ei lansio er mwyn cofrestru eich manylion a chael mynediad i'ch cyfrif.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at MyAccountSupport@bridgend.gov.uk