Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae gwasanaethau bysiau First Cymru wedi dychwelyd i Orsaf Fysiau Maesteg

Mae First Cymru Buses Limited wedi cadarnhau bod ei wasanaethau yn rhedeg o orsaf fysiau Maesteg unwaith yn rhagor wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymryd camau gweithredu i atal cerbydau anawdurdodedig rhag cael mynediad i’r ardal cilfachau bysiau.

Cafodd gwasanaethau eu gohirio dros dro gan y cwmni yn dilyn pryderon diogelwch ynghylch ceir a cherbydau eraill yn defnyddio’r ardaloedd bysiau i barcio, troi ac i lwytho a dadlwytho nwyddau.

Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon diogelwch pwysig hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno gorchymyn traffig newydd yn yr orsaf, ynghyd â llinellau melyn dwbl newydd, sy’n rhoi pwerau i’r awdurdod gyflwyno gorfodaethau sifil yn erbyn gyrwyr sy’n torri’r rheolau.

Cyflwynwyd y gorchymyn traffig yn fuan wedi i First Cymru adrodd bod car wedi taro un o’u bysiau. Mae’n dilyn sawl cais aflwyddiannus i atal gyrwyr rhag mynd mewn i’r ardal cilfachau bysiau yn ogystal â’u hatgoffa bod cyfleusterau parcio am ddim yn parhau i fod ar gael yn Stryd Llynfi.

Bydd swyddogion gorfodi’n monitro’r sefyllfa’n agos a byddant yn sicrhau bod bob cerbyd sy’n defnyddio gorsaf fysiau Maesteg heb awdurdod yn cael hysbysiad cosb benodedig.

Chwilio A i Y