Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar fentrau wedi'u hariannu gwerth £750k er mwyn sicrhau strydoedd mwy diogel

Mae gwaith wedi dechrau ar gyfres o fentrau newydd sydd â'r nod o wneud strydoedd, canol trefi a rhai ardaloedd preswyl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i'r cyhoedd.

O ganlyniad i fenter ar y cyd rhwng Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi sicrhau bron i £750,000 o gyllid gan y Swyddfa Gartref er mwyn cyflwyno'r mentrau fel rhan o'r 'Gronfa Strydoedd mwy Diogel' - rhaglen gwerth £75m sy'n annog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol i wneud cais am fuddsoddiad ar gyfer mentrau sy'n atal troseddau cymdogaeth.

Daeth partneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid trydydd sector a statudol allweddol eraill, ynghyd i lunio cais a oedd yn adeiladu ar fentrau presennol, er mwyn cyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch merched, troseddau cymdogaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal ag ymestyn mentrau llwyddiannus presennol. Mae'r prosiectau yn cynnwys:

  • Gosod Camerâu Cylch Cyfyng ar y stryd mewn lleoliadau allweddol ledled y fwrdeistref sirol
  • Cyflwyno cerbydau ac offer Uned Ieuenctid Symudol er mwyn cefnogi ymgysylltiad ieuenctid drwy gyflwyno gweithgareddau ystyrlon mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf
  • Sioeau teithiol atal troseddau sy'n targedu ardaloedd penodol er mwyn annog Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth a chyflwyno pecynnau gwybodaeth sydd â'r nod o leihau byrgleriaethau preswyl
  • Cynyddu patrolau'r heddlu a chyflwyno marsialiaid tacsi yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod economi'r nos er mwyn lleihau troseddau aflonyddu a thrais, a meithrin ymdeimlad cryfach o ddiogelwch
  • Comisiynu 'Cynllun Ardal Ddiogel' ar gyfer canol trefi lle gall pobl geisio lloches os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu mewn perygl 
  • Cyflwyno prosiect celf stryd a sioeau Stryd Grwydrol mewn ardaloedd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr lle mae graffiti a fandaliaeth yn broblem, er mwyn gwella'r amgylchedd a lleihau'r ofn o droseddau
  • Cyflwyno hyfforddiant ac ymyriadau 'Paid Cadw'n Dawel' i fyfyrwyr a gweithwyr economi'r nos er mwyn lleihau trais yn erbyn merched
  • Cynnal dosbarthiadau hunanamddiffyn am ddim mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol

Rydym ar ben ein digon bod y cyllid newydd Strydoedd Mwy Diogel hwn eisoes yn cael ei wario'n effeithiol a'i fod o fudd i'n cymunedau lleol.

Mae diogelwch cymunedol yn un o'n blaenoriaethau, ac mae'r cyllid hwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth wrth sicrhau diogelwch ein trigolion a mynd i'r afael â throsedd ledled y fwrdeistref sirol.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n partneriaid yn Heddlu De Cymru a gwasanaethau golau glas eraill er mwyn sicrhau nad yw trigolion y fwrdeistref sirol yn teimlo dan fygythiad nac mewn perygl yn ein cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio:

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: "Rydym wedi gweithio'n agos â'r cyngor a phartneriaid eraill i nodi'n fanwl prif hyrwyddwyr y problemau lleol, a chanfod y ffyrdd gorau o fynd i'r afael â'r problemau hyn ar y cyd.

"Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi i wneud strydoedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i bawb, yn enwedig merched, yn ogystal â lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled ein cymunedau. 

"Wrth gydweithio, rydym yn canolbwyntio ar fuddion uniongyrchol mesurau ymarferol fel Camerâu Cylch Cyfyng a gwelliannau ffisegol i'r amgylchedd ac wrth gyflawni gwelliannau cynaliadwy hirdymor er mwyn creu cymunedau diogel, hyderus a gwydn. Heb os, rydym yn cyflawni llawer mwy gyda’n gilydd nac wrth weithio’n unigol."

Mae rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ar eu gwefan

Chwilio A i Y