Mae Covid-19 yn effeithio ar rai gwasanaethau bysiau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog unrhyw un sy'n bwriadu teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wirio ymlaen llaw gyda darparwyr rhag ofn bod pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar wasanaethau.
Mae rhai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn profi oedi ac mewn achosion eithafol maent hyd yn oed yn gorfod cael eu canslo o ganlyniad i orfod hunanynysu yn dilyn amlygiad posibl i bobl sydd wedi profi'n bositif am Covid-19.
Er bod y gwasanaethau'n cael eu darparu gan gwmnïau preifat, mae staff yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud bod rhai teithwyr siomedig wedi gwylltio ac wedi dod yn sarhaus.
Mae hyn yn ein hatgoffa'n amserol bod pandemig y coronafeirws ymhell o fod wedi dod i ben, a'i fod yn parhau i effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Mae cwmnïau bysiau preifat yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaethau, ond mae'n rhaid iddynt hefyd ystyried llesiant staff a theithwyr.
O ystyried y gallai'r sefyllfa newid yn gyflym a heb fawr o rybudd, byddwn yn argymell yn gryf y dylai unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wirio gyda'r darparwr cyn iddynt ddechrau ar eu taith. Fodd bynnag, mae bod yn sarhaus â staff y cyngor, nad oes ganddynt ddim i'w wneud â'r penderfyniadau hyn, ac sydd yno i'ch helpu a'ch cefnogi cystal ag y gallant, yn annerbyniol, a bydd unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu hadrodd i Heddlu De Cymru.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am argaeledd gwasanaethau ar wefannau NatGroup, First Cymru a Stagecoach.