Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae angen eich barn ynghylch mynd i’r afael â phroblemau baw ci a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau fis Ebrill ar gynlluniau i fynd i’r afael â phroblemau baw ci a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol yn y fwrdeistref sirol.

Gydag adnewyddu’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) rheoli cŵn arfaethedig, gall cerddwyr cŵn gael dirwy o £100 pe baent yn methu codi baw eu hanifeiliaid anwes mewn mannau cyhoeddus neu fynd â’u ci am dro heb gario digon o fagiau baw ci. Er nad yw’r gorchymyn yn rhwystro cŵn rhag bod oddi ar eu tennyn mewn mannau penodol, fe fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gerddwyr cŵn roi eu ci ar dennyn pe bai swyddog yn gofyn iddynt wneud, a byddai’n drosedd a all olygu dirwy o £100 pe baent yn gwrthod.

Dechreuodd y PSPO rheoli cŵn blaenorol, a oedd yn cynnwys yr un amodau, yn 2018 hyd at y llynedd. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn i awdurdod lleol gael gwneud, ymestyn neu addasu PSPO.

Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond mae llawer gormod sydd ddim yn glanhau ar ôl eu cŵn, gan adael baw ci mewn mannau cyhoeddus ac ar y palmentydd. Mae rhai perchnogion cŵn hefyd yn gadael i’w cŵn achosi niwsans mewn man cyhoeddus drwy fethu â chadw eu cŵn dan reolaeth.

Cyn i ni fynd ati i barhau â’r PSPO, hoffem glywed barn y cyhoedd felly, os gwelwch yn dda, cwblhewch yr ymgynghoriad arfaethedig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Bydd y PSPO arfaethedig yn ymwneud â’r holl fannau cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol, yn cynnwys caeau chwarae a thraethau. Ni fydd yn berthnasol i unrhyw berson sy’n dioddef o anabledd sy’n eu rhwystro rhag codi baw eu cŵn.                                                                                                            

Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet gynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos mewn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Mawrth. Caiff canlyniad yr ymgynghoriad ei adrodd yn ôl i'r Cabinet cyn gwneud penderfyniad i greu’r PSPO.

Chwilio A i Y