Mae amser ar ôl o hyd i rannu eich barn am y Cynllun Datblygu Lleol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 25 Mehefin 2021
Mae amser ar ôl o hyd i ddweud eich dweud ar uwchgynllun drafft a ddefnyddir i benderfynu pa fathau o ddatblygiadau a all ddigwydd ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033.
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd sydd ar hyn o bryd yn y cam Drafft Adneuo, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Mae'n amlinellu sut y gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol a fydd yn cael eu cynnal fel man agored neu’n cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth.
Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft yn gynharach y mis hwn ac mae'n rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid yn y fwrdeistref sirol roi eu barn ar y cynllun newydd a fydd yn disodli'r CDLl presennol.
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy ymweld â gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Mae fformatau eraill ar gael ar gais. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn rhan hanfodol o broses y CDLl sy'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd rannu eu barn am faterion allweddol ac amcan a gweledigaeth y cynllun.
Mae'r CDLl yn amlinellu sut y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu dros y 15 mlynedd nesaf ac yn sicrhau bod datblygiadau'n cael eu darparu yn yr ardaloedd cywir gyda ffyrdd ategol, ysgolion a gwasanaethau megis iechyd, manwerthu, hamdden, cyfleusterau cymunedol a mwy.
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn sefydlu'r egwyddorion ar gyfer datblygu safle sydd wedyn yn arwain at geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, aelod cabinet y cyngor dros gymunedau
Mae'r CDLl yn ceisio sicrhau bod yna ddigon o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n tyfu o fewn y fwrdeistref sirol tra hefyd yn darparu seilwaith a chyfleusterau newydd, a denu buddsoddiad economaidd newydd i'r ardal.
Bwriedir i'r datblygiadau newydd fod o amgylch prif aneddiadau Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, y Pîl, ac ym Mhorthcawl, gyda thwf adfywio ym Maesteg yn ogystal â safleoedd llai eraill.
Dros gyfnod o 15 mlynedd y cynllun, mae’r cynllun yn anelu i helpu i greu bron i 5,000 o swyddi ychwanegol.
Mae'r CDLl hefyd yn ystyried Siarter Creu Lleoedd Cymru sy'n ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau lle gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu.