Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lwfansau i ofalwyr maeth awdurdod lleol wedi codi'n uwch na’r argymhelliad cenedlaethol

Bydd lwfansau i ofalwyr maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn codi'n uwch na’r Lwfans Maethu a Argymhellir yn Genedlaethol i gefnogi gofalwyr yn ystod yr argyfwng costau byw.

Cytunwyd ar y cynnydd yn ystod cyfarfod o Gabinet y Cyngor ar ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf, a bydd yn gweld cynnydd gwerth saith y cant yn y lwfans ar gyfer gofalwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/2023.

Mae mesurau ychwanegol y cytunwyd arnynt i helpu gofalwyr maeth yn cynnwys cyflwyno seibiant â thâl am bythefnos i bob gofalwr maeth.

Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyflwyno'r newidiadau hollbwysig hyn nawr er mwyn helpu gofalwyr maeth yng ngoleuni'r argyfwng costau byw.

Nid yn unig rydym yn sicrhau bod ein holl ofalwyr yn cyrraedd y Safon Ofynnol Genedlaethol, rydym hefyd yn cynyddu saith y cant ar yr holl gyfraddau er mwyn helpu i gefnogi'u gwaith hanfodol. Mae nifer o bobl wir yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd, gyda chostau'n cynyddu, ac mewn sawl achos, nid yw'r incwm yn cyd-fynd â'r cynnydd hwnnw.

Rydym wir yn gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr felly mae gallu eu cefnogi nhw, mewn unrhyw ffordd y gallwn, yn flaenoriaeth i ni. Rydym wedi ymrwymo i adolygu taliadau ychwanegol yn ddiweddarach eleni, er mwyn i ni allu parhau i wneud popeth a allwn i'w cynorthwyo nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol:

Mae tîm maethu'r cyngor yn gweithio gyda gofalwyr maeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol yn parhau i fyw yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u hysgolion.

Gallwch ddysgu mwy am faethu gyda'ch awdurdod lleol drwy ymweld â gwefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr: https://bridgend.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch y llinell ymholi ranbarthol: 01443 425007.

Chwilio A i Y