Llywodraeth Cymru yn ymestyn ei Grant Caledi i Denantiaid o ganlyniad i Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 20 Ionawr 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi newid meini prawf Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer tenantiaid sydd wedi methu talu rhent o ganlyniad i Covid-19 rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Rhagfyr 2021.
Mae'r grant wedi cael ei ddylunio i gefnogi tenantiaid sy'n ei chael hi'n anodd i dalu rhent o ganlyniad i'r pandemig ac i fod o gymorth iddynt aros yn eu cartrefi a pheidio colli eu tenantiaeth.
Gall ôl-ddyledion rhent fod yn ganlyniad i golli incwm oherwydd ffyrlo, llai o waith, costau cynyddol neu oherwydd mai dim ond Tâl Salwch Statudol a lwyddwyd i'w hawlio tra'n sâl gyda Covid-19.
Mae'r grant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, ac mae ar gael i bobl nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai neu'r elfen dai o'r Credyd Cynhwysol. Mae'n cymryd lle'r Benthyciad Arbed Tenantiaeth a gafodd ei gyflwyno ym mis Hydref 2020. Bydd y benthyciad yn troi yn grant i unrhyw un a'i derbyniodd.
Nod y Grant Caledi i Denantiaid yw helpu'r rhai hynny sydd mewn angen, a gwarchod pobl a theuluoedd rhag y trawma o gael eu hel o gartref a bod yn ddigartref.
Os ydych yn byw mewn llety rhentu preifat, ac wedi profi ôl-ddyledion rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Rhagfyr 2021 o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, gallech fod yn gymwys i gael y grant, a byddwn yn eich annog i gysylltu â ni.
Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd i dalu eu rhent - hyd yn oed os ydynt newydd ddechrau cael trafferthion - i gysylltu â'u landlord neu asiant, a sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru, er mwyn derbyn y cyngor a'r gefnogaeth gywir.
Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, Dhanisha Patel
Gwneir ceisiadau drwy'r awdurdod lleol. I wneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, e-bostiwch housing@bridgend.gov.uk. Nodwch 'Grant Cymorth GCD' ym mlwch testun eich e-bost.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi profi caledi ariannol oherwydd pandemig Covid-19, oedd yn golygu nad oeddent wedi gallu talu rhent. Nid yw'r grant ar gael ar gyfer ôl-ddyledion a brofwyd y tu allan i'r dyddiadau uchod, neu i'r rheiny nad ydynt wedi talu rhent yn fwriadol i'w landlord neu asiant.
Am ragor o fanylion am y grant a chymhwystra, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.