Llywodraeth Cymru yn cadarnhau llacio rhai cyfyngiadau coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Ebrill 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru a fydd yn caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor a dwy aelwyd i ffurfio swigen neilltuol.
Yn llawn, mae llacio rhai cyfyngiadau yn golygu o ddydd Llun 3 Mai:
- Gall campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden, sbâu a phyllau nofio ailagor
- Bydd aelwydydd estynedig yn bosibl, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen neilltuol i gwrdd a chael cyswllt dan do
- Gall gweithgareddau dan do i blant ailddechrau, megis grwpiau chwaraeon, diwylliannol a hamdden ehangach a chlybiau. Mae hefyd yn cynnwys grwpiau rhiant a baban/plentyn. Ni chaniateir partïon pen-blwydd i blant, na chynulliadau ehangach o deuluoedd a chyfeillion mewn cartrefi preifat
- Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu i oedolion ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys, dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio
- Gall canolfannau cymunedol ailagor
Mae hyn yn golygu y bydd Cymru wedi symud i Lefel Rhybudd 3 yn llawn erbyn 3 Mai.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ragor o lacio posibl i'r rheolau os bydd cyflwr iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.
Yn gynharach heddiw, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella ac mae ein rhaglen frechu yn parhau i fod yn llwyddiant. Diolch i ymdrechion pobl ledled Cymru, rydym mewn sefyllfa i lacio'r cyfyngiadau ymhellach, fel y soniwyd o'r blaen, er mwyn caniatáu i fwy o'n bywyd arferol ddod yn ôl.
"Fodd bynnag, nid yw'r feirws wedi diflannu. Mae angen i bob un ohonom barhau i gymryd y camau hollbwysig hynny yr ydym i gyd bellach mor gyfarwydd â hwy, i ddiogelu ein hunain a'n gilydd rhag y feirws ofnadwy hwn - sef drwy hunanynysu os oes gennym symptomau, cael y brechlyn Covid, golchi ein dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus caeëdig, dilyn y rheolau ymbellhau cymdeithasol, cyfyngu ar nifer y bobl rydym yn cwrdd â nhw yn gymdeithasol yn yr awyr agored, a dim ond cyfarfod â'r rhai yr ydym yn byw gyda nhw dan do.
"Os ydym yn cydweithio ac yn dilyn y rheolau hyn, byddwn yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i gadw Cymru'n ddiogel."
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: "Gyda sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella a'n rhaglen frechu yn parhau i fynd rhagddi, rydym yn croesawu llacio'r cyfyngiadau hyn.
"Wrth i ni ddychwelyd i ffordd fwy normal o fyw, mae'n bwysig parhau i fod yn effro a pharhau i ddilyn y rheolau o ran cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb pan mae angen."
Bydd canolfannau hamdden Halo ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor ddydd Llun a bydd pyllau nofio a chyfleusterau campfa ar gael yn ogystal ag ymarferion grŵp dan do i oedolion.
Bydd gwersi gymnasteg a nofio i blant yn ailddechrau yr wythnos yn dechrau 10 Mai. Fodd bynnag, bydd y pwll yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod wedi cau am yr wythnosau nesaf oherwydd gwaith adnewyddu'r ystafelloedd newid.
Bydd adolygiad nesaf cyfyngiadau'r coronafeirws ar 13 Mai. Am ragor o fanylion ewch i wefan Llywodraeth Cymru.