Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cynlluniau i fwy o ddisgyblion ddychwelyd yn rhannol i'r ysgol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Mawrth 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'w hysgolion cyn y Pasg.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai ysgolion yn cael cyfle i groesawu dysgwyr Blynyddoedd 7, 8 a 9 yn ôl, er mwyn rhoi cyfle iddynt gael cwrdd ag athrawon gan ganolbwyntio ar gymorth llesiant, a pharatoi ar gyfer dychwelyd i'r ysgol yn llawn amser ar ôl gwyliau'r Pasg.
Bydd dychweliad disgyblion uwchradd ieuengach, sydd wedi'i drefnu, yn ychwanegol i'r holl ddisgyblion cynradd y mae disgwyl iddynt ddychwelyd i'r ysgol o 15 Mawrth, ynghyd â dysgwyr Blwyddyn 10 a 12, a disgyblion mewn blynyddoedd arholiadau. Mae disgyblion cynradd ieuengach eisoes wedi gallu dychwelyd i'w dosbarthiadau.
Bydd y cynlluniau'n dibynnu ar adolygiad rheolaidd rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener 12 Mawrth.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae ail-gychwyn addysg yn brif flaenoriaeth i ni yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o rannu ychydig o newyddion cadarnhaol ar hynny heddiw. Dyma'r ail wythnos i'n disgyblion ieuengach fod yn ôl yn yr ysgol, ac rwyf wedi gweld ar yr olwg gyntaf y gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud yn barod - diolch unwaith eto i bawb sy'n gwneud hyn yn bosib.
"Rydym eisoes wedi cyhoeddi y bydd gweddill disgyblion ysgolion cynradd yn cychwyn dychwelyd i'r ysgol o 15 Mawrth - os bydd y cyngor gwyddonol yn dangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny - ynghyd â disgyblion mewn blynyddoedd arholiadau a myfyrwyr sy'n gwneud cymwysterau cyffelyb mewn colegau a dysgu'n seiliedig ar waith. Bydd hyblygrwydd hefyd i unigolion ym Mlynyddoedd 10 a 12.
"Rwyf hefyd wedi rhannu fy mwriad i gael yr holl ddysgwyr yn ôl mewn ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddi ar ôl gwyliau'r Pasg.
"Rwyf eisiau nodi nawr nad yw hyn yn golygu y bydd Blynyddoedd 7, 8 a 9 yn gorfod dychwelyd yn llawn cyn y Pasg. Cyn y Pasg, canolbwyntir ar ddysgwyr sy'n cwblhau cymwysterau, yn enwedig unigolion ym Mlynyddoedd 11 ac 13, ac unigolion sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol ymarferol.
"Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch unwaith eto am ddilyn y rheolau, lleihau lledaeniad y feirws, a rhoi lle i ni gael dysgwyr yn ôl yn ein hysgolion a'n colegau. Gyda'n gilydd, byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel, ac yn sicrhau bod addysg yn parhau yng Nghymru."
Bydd y newyddion hwn yn cael ei groesawu'n fawr gan rieni a dysgwyr, ac rwy'n falch y bydd myfyrwyr yn gallu cwrdd â'u hathrawon cyn dychwelyd yn ôl yn iawn i'r ysgol ar ôl gwyliau'r Pasg.
Ein prif flaenoriaeth o hyd yw galluogi disgyblion i barhau â'u haddysg yn ddiogel, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phenaethiaid a chyrff llywodraethu i wneud y paratoadau hanfodol cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Cymru'n rhyddhau manylion pellach.
Yn y cyfamser, mae'n bwysig fod yr holl ddisgyblion, myfyrwyr, rhieni, a gofalwyr yn parhau i ddilyn y canllawiau er mwyn lleihau lledaeniad coronafeirws, a chaniatáu plant a'u hathrawon i ddychwelyd i'w dosbarthiadau'n ddiogel.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio