Llywodraeth Cymru’n diweddaru canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 26 Mai 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal wrth i lefelau’r coronafeirws barhau i fod yn isel, a chyfraddau brechu fod ymysg y gorau yn y DU.
Mae’r cyfyngiad ar niferoedd cyffredinol yr ymwelwyr wedi cael ei godi’r wythnos hon. Gall hyd at ddau o bobl ymweld â phreswylydd dan do ar yr un pryd - does dim angen iddynt fod yn ymwelwyr dynodedig mwyach.
Cynghorir y rhai sy’n awyddus i ymweld ag aelodau’r teulu a ffrindiau mewn cartrefi gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y dylid cysylltu â’r cartref cyn ymweld, er mwyn gweld pa drefniadau sydd ar waith.
Bydd angen i ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd ar gyfer Covid-19 cyn cael dod i mewn. Bydd canlyniad y prawf yn ôl o fewn 30 munud.
Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb wrth ddod i mewn i’r cartref, a dylai’r ymwelwyr ddilyn yr holl reolau ar gadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo. Mae’n bosibl y caniateir gafael dwylo mewn rhai amgylchiadau, ac mae’n rhaid i ymwelwyr olchi eu dwylo cyn ac ar ôl cael unrhyw gyswllt, a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir.
Dylid gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) os yw’n debygol y bydd mwy o gyswllt agos sylweddol gyda’r preswylydd, ac yn benodol os oes risg uwch o haint.
Rydym yn gwybod bod gallu gweld perthnasau a ffrindiau’n bwysig i breswylwyr cartrefi gofal, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ymweliadau dan do mor ddiogel â phosibl. Cyn ymweld, rhaid i berthnasau a ffrindiau gysylltu â’r cartref perthnasol i gael gwybod pa drefniadau sydd ar waith. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ymweliadau’n cael eu cynnal mewn ffordd sy’n bodloni holl ofynion canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, felly ceisiwch fod yn amyneddgar.
Er mwyn amddiffyn pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, ni ddylech ymweld os oes gennych symptomau, os ydych wedi cael canlyniad prawf positif, os ydych yn aros am ganlyniad prawf neu os ydych yn gyswllt agos neu gyswllt aelwyd ag achos positif o Covid-19. Dylech ddilyn canllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru.
Mae staff yn gwneud eu gorau glas i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gweithio gyda nhw i leddfu’r risgiau.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
I gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau newydd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.