Llysgenhadon Ifanc yn lansio Her 12 Diwrnod y Dolig
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Rhagfyr 2021
Mae plant a phobl ifanc o bob cwr o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Her 12 Diwrnod y Dolig yn ystod yr ŵyl.
Mae’r her wedi’i threfnu gan Lysgenhadon Ifan Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n cynnwys bob math weithgareddau, o helfa drysor a phobi cwcis i frwydrau â pheli eira papur a gwylio’ch holl ffilmiau Nadolig.
Mae Shannie Bowen wedi bod yn Llysgennad Ifanc ers pedair blynedd, ac wedi helpu i lunio’r her Nadolig gyda'i chyd-lysgenhadon.
Rydym wedi sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau corfforol a meddyliol ar gael, a bod hwyl yr ŵyl yn amlwg drwy’r her gyfan.
Roeddem eisiau cynnwys mwy na gweithgareddau corfforol yn unig, bod yn greadigol, a sicrhau bod teuluoedd yn mwynhau’r tymor Nadoligaidd. Yn ysgogiad i’r cyfan, roedd geiriau’r bobl ifanc, ‘a ninnau’n ifanc, rydym wedi cael amser heriol, felly beth am geisio dathlu’r Nadolig a chael teuluoedd ynghyd i fwynhau hwyl yr ŵyl.
Shannie Bowen
Mae sawl noddwr o bob cwr o’r fwrdeistref sirol hefyd wedi helpu drwy ddarparu amrywiaeth o wobrau ar gyfer pob diwrnod o’r her. Ymhlith y noddwyr, mae Halo Leisure, Jump Jam, Bavo, Llewod Pen-y-bont ar Ogwr, DJ Shhh, 1st Class Tiling a KK Solutions.
Mae'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn cael ei chyflwyno gan Chwaraeon Cymru, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a'r tîm datblygu chwaraeon ym mhob awdurdod lleol. Mae’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.
Mae pobl ifanc yn creu ac yn cyflwyno cyfleoedd i'w cyfoedion ac oedolion fod yn actif trwy chwaraeon, ac maent yn awyddus i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol. Yn ei thro, mae'r rhaglen yn rhoi hyder a sgiliau i bobl ifanc ddod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol.
I weld rhagor o fanylion ar gyfer Her 12 Diwrnod y Dolig, yn cynnwys cofrestru, chwiliwch am @Bridgend YA ar Twitter neu @bridgendya ar Instagram lle bydd rhagor o adnoddau’n cael eu rhannu.
System.NullReferenceException: Object reference not set to an instance of an object. at ASP._Page_app_plugins_s8080_grid_editors_render_image_cshtml.Execute() in D:\Umbraco\www_bridgend_gov_uk\app_plugins\s8080-grid\editors\render\image.cshtml:line 25 at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy() at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy() at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage) at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer) in D:\a\1\s\src\Umbraco.Web\Mvc\ProfilingView.cs:line 25 at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData) at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in D:\Umbraco\www_bridgend_gov_uk\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20