Llyfrgelloedd yn ailagor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
Mae llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ailagor eu drysau ar ôl cyhoeddi bod Cymru yn symud allan o rybudd lefel pedwar Covid-19.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rhedeg llyfrgelloedd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi dechrau ailagor cyfleusterau i fedru pori drwy lyfrau ar gyfer nifer gyfyngedig o ddefnyddwyr, mynediad TGCh a rhai lleoedd astudio y gellir eu harchebu ar gael.
Mae’r llyfrgelloedd yn Abercynffig, Betws, Maesteg, Pencoed, Y Pîl a Sarn wedi ailagor gyda mesurau diogelwch yn eu lle, gan gynnwys ymbellhau cymdeithasol, mesurau hylendid dwylo, glanhau arwynebau yn rheolaidd a rhoi stoc mewn cwarantin. Rhaid i breswylwyr sy’n ymweld â llyfrgelloedd wisgo gorchuddion wyneb oni bai eu bod wedi’u heithrio.
Mae llyfrgelloedd Porthcawl yn parhau i fod ar gau wrth i waith adnewyddu gael ei wneud i wella’r cynllun a chaniatáu i fwy o ymwelwyr ddefnyddio cyfleusterau’n ddiogel.
Bydd ailagor y llyfrgell, sy’n cael ei rhedeg gan Awen yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, a’r llyfrgelloedd yng Nghanolfannau Bywyd Garw ac Ogwr, sy’n cael eu rhedeg gan Halo, yn cael eu hystyried pan godir cyfyngiadau Covid-19 o amgylch canolfannau hamdden.
Yn y llyfrgelloedd mwy o faint yn y fwrdeistref sirol, mae peiriannau hunan-wasanaeth wedi’u gosod ac mae technoleg newydd yn caniatáu iddynt gael eu defnyddio ar y cyd â ffonau symudol i greu ymweliad cwbl ddi-gyswllt.
Mae'r gwasanaethau Llyfr a Chasglu a Llyfrau ar Olwynion yn parhau i weithredu ar gyfer y rhai nad ydynt yn barod i bori drwy lyfrau neu sydd angen i lyfrau gael eu danfon i’w cartrefi.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys amseroedd agor, ewch i wefan Llyfrgelloedd Awen.