Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwyddiant Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau!

Cyflwynwyd y wobr gyntaf am gymorth lles i Ysgol Gynradd Corneli.  Gwahoddwyd yr ysgol gan Fuddsoddwyr mewn Teuluoedd i gymryd rhan yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles cyntaf Cymru, ac enillodd y wobr gyntaf am ddarparu’r ‘Cymorth Iechyd Meddwl Gorau yn ystod y Pandemig’. 

Roedd gweithgareddau’r ysgol yn amrywio o ‘Caffis Stori’ dan arweiniad y pennaeth a’r dirprwy bennaeth drwy gydol y pandemig COVID-19, i ddosbarth cymysg Blwyddyn 2 a 3 yn dewis ysgrifennu llythyrau gobaith at bobl yn y gymuned oedd yn profi unigrwydd. 

Ymhlith yr ymatebion gwych i’r llythyrau, oedd ymateb gan ŵr oedrannus yn byw mewn cartref gofal.  Ar ôl iddo rannu hanes ei fywyd yn ei lythyr, daeth y gŵr 94 oed yn gyfaill gohebol i’r dosbarth.

Mae ysbryd o haelioni a charedigrwydd yn parhau mewn ysgolion eraill yn y fwrdeistref sirol, gydag Ysgol Gynradd Tondu yn cefnogi ei chymuned trwy ei menter ‘Tondu Trade Up’.

Yn seiliedig ar egwyddorion ‘siop gyfnewid’, mae’r ysgol yn cynnig cyfle i deuluoedd disgyblion, ac yn fwy diweddar y gymuned ehangach, i gyfnewid eitemau o wisg ysgol neu ddillad eraill. 

Adeg y Nadolig, roedd cynnwys y ‘siop’ yn ymestyn i deganau ac mae’r ysgol yn bwriadu stocio dillad y gwanwyn, yn ogystal â siorts a chrysau-t yn barod ar gyfer yr haf.  Os nad oes gan rieni unrhyw beth i’w gyfnewid, mae croeso iddynt roi rhodd ariannol fach neu i gymryd beth sydd ei angen arnynt.

Sefydlodd Ysgol Gynradd Plasnewydd ‘Siop Siwmperi Nadolig Dros Dro’ lwyddiannus, roedd siwmperi oedd wedi’u rhoi yn cael eu dewis gan ymwelwyr â’r siop i’w gwisgo ar eu Diwrnod Siwmperi Nadolig. 

Mae Eco-Sgolion wedi cydnabod y cyfraniad hwn at gynaliadwyedd, yn ogystal â phartneriaeth yr ysgol gyda NatureQuest ac ADA Recycling yn yr ymgyrch ‘Love it, Don’t Trash it’ i gefnogi’r amgylchedd.  Mae ymdrechion ecogyfeillgar y disgyblion wedi sicrhau Gwobr Baner Platinwm iddynt am y pedwerydd gwaith!

Mae ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn parhau i archwilio ffyrdd gwahanol o gyflwyno’r cwricwlwm. 

Mae ymweliadau â’r llyfrgell i wrando ar straeon wedi dal dychymyg disgyblion Ysgol Gynradd Plasnewydd, a’u hysbrydoli i gymryd rhan yng nghystadlaethau ‘Ysgrifenwyr Ifanc’.  Mae Ysgol Gynradd Porthcawl yn hyrwyddo ‘llais y disgybl’ trwy eu menter ‘Arsylwi, Rhyfeddu a Chasglu’, sy’n annog disgyblion i drafod, myfyrio a dadlau gwahanol bynciau. 

Mae Pennaeth y Dystysgrif Her Sgiliau yn Ysgol Gyfun Bryntirion, wedi creu her ‘Buddugoliaeth i Felindre’ mewn partneriaeth â Codi Arian Felindre a CBAC.  Mae’r her yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd, entrepreneuriaeth, a gwybodaeth foesegol dysgwyr ac mae bellach ar gael i bob ysgol yng Nghymru.

Mae staff o Goleg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon John Lewis ac Ysgol Gyfun Pencoed i gyd wedi cwblhau’r rhaglen dysgu proffesiynol ’Ailystyried Darllen’ yn llwyddiannus – cynllun sy’n archwilio sut y gellir cefnogi dysgwyr i ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau darllen.

Rwyf mor falch o’r profiadau y mae’r disgyblion yn ein bwrdeistref sirol yn eu cael. Nid yn unig yw dysgwyr yn datblygu sgiliau academaidd, maen nhw hefyd yn datblygu sgiliau dinasyddiaeth gwerthfawr.

Diolch yn fawr iawn i’r athrawon sy’n parhau i ymrwymo i ddarparu cwricwlwm amrywiol i ddisgyblion ac sydd bob amser yn ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain i helpu i gefnogi eu dysgwyr ymhellach. Rydym yn hynod ddiolchgar.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y