Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybrau teithio llesol yn cael hwb ariannol gwerth £620,000 fel rhan o'r ymateb trafnidiaeth i’r pandemig Covid-19

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn bron £620,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol dros dro a parhaol.

Nod y cais llwyddiannus, a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ym mis Mai, yw hybu cerdded a beicio yn yr ardal trwy wella amodau diogelwch llwybrau cerdded a beicio yn ystod ac yn dilyn yr argyfwng Covid-19.

Bydd cyfanswm y grant gwerth £619,317 yn helpu i wella a/neu ddarparu mwy na 150 o bwyntiau croesi ar gyfer cerddwyr a beiciau mewn cymunedau ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r croesfannau cyffyrddadwy'n caniatáu man mwy diffiniedig i gerddwyr a beicwyr groesi ffyrdd.

Bydd y cyllid hefyd yn galluogi rhan o'r ffordd rhwng Cylchfan Llangrallo a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn llwybr teithio llesol dros dro am gyfnod o 12 wythnos. Bydd y rhan 2.5 km yn cynnwys Rhodfa Ffordd y Brenin ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, a Heol York i Heol y Bont-faen. Os bydd yn llwyddiannus, gallai gael ei wneud yn barhaol.

Fodd bynnag, ni dderbyniodd un o’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o'r cais am gyllid, a oedd yn cynnwys cwblhau llwybr arfordir Porthcawl ar hyd blaen Bae Trecco, gyllid.

Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: “Gofynnwyd i ni gyflwyno cynigion a fyddai’n annog mwy o bobl i fynd i gerdded a beicio nawr ac yn y dyfodol.

“Roedd rhaid i'r mesurau newid yr amgylchedd ar gyfer cerdded a beicio mewn modd ffisegol.

“Er ei bod yn siomedig nad ydym wedi derbyn cyllid ar gyfer pob prosiect y gwnaethom gyflwyno cynigion ar ei gyfer, rydym wrth ein boddau gyda'r grant gan Lywodraeth Cymru, sy'n ein galluogi i fwrw ymlaen â chynlluniau sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser.

“Byddwn yn monitro effaith y llwybr teithio llesol gweithredol dros dro rhwng Cylchfan Llangrallo a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn gwneud addasiadau os oes angen.”

Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £15 miliwn i awdurdodau lleol fel rhan o'i chefnogaeth ar gyfer mesurau trafnidiaeth gynaliadwy leol mewn ymateb i'r argyfwng Covid-19.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Yn ystod y cyfyngiadau symud hyn, rydym wedi gweld newid gwirioneddol mewn ymddygiad pobl, gyda mwy a mwy ohonom yn dewis cerdded a beicio ar gyfer teithiau angenrheidiol.

“Pan ydym wedi gallu gadael y tŷ, mae wedi bod yn wych i gael mwynhau'r awyr lanach a'r strydoedd tawelach. Ond mae'n amlwg fod yn rhaid i ni weithredu nawr er mwyn cadw llawer o’r ymddygiadau newidiol hynny a welsom ar gyfer yr hirdymor drwy wneud dewis cadarnhaol i ailddyrannu lle ar y ffyrdd yng nghanol ein trefi ac yn ein cymunedau a'i neilltuo ar gyfer seilwaith teithio llesol gwell.

“Gwnaethom ofyn i awdurdodau lleol flaenoriaethu'r cynlluniau hynny y gellir eu cyflawni o fewn y tri i bedwar mis nesaf ac sy’n gallu cael yr effaith fwyaf yn eu hardaloedd lleol – gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gobeithio, o ran sut mae pobl yn gweld ac yn teithio o amgylch eu hardaloedd lleol.”

Yn gynharach eleni, cwblhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr waith ar lwybr diogel i gerddwyr a beiciau gwerth £1.5 miliwn sy’n cysylltu Pencoed a Llangrallo â Phen-y-bont ar Ogwr.

Ar hyn o bryd, mae'r awdurdod lleol hefyd yn aros am ganlyniad pecyn teithio llesol gwerth £4 miliwn a gyflwynodd ym mis Chwefror ar gyfer 2020/21, sy'n cwmpasu gwelliannau i'r llwybr rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed, llwybr teithio llesol rhwng y Pîl a Phorthcawl, ac un arall rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phentref Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y