Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybr ‘Tywynnu yn y tywyllwch’ yn hwyluso teithio llesol

Mae rhwydwaith teithio llesol gwerth £1.5 miliwn ac sy’n cysylltu cartrefi, ysgolion a busnesau ym Mhencoed yn cynnwys llwybr ‘tywynnu yn y tywyllwch’ newydd a fydd yn dangos y ffordd i gerddwyr a beicwyr yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae gan y llwybr 300 metr, sy’n mynd drwy gaeau chwarae Woodlands i gysylltu Pant Pistyll â Llwyn Gwern, wyneb o resin ffoto-ymoleuol sy’n storio golau uwch-fioled yn ystod y dydd er mwyn helpu i oleuo’r llwybr yn y tywyllch.

O Lwyn Gwern, mae’r llwybr diogel hwn sydd oddi ar y ffordd, yn arwain at Ysgol Gyfun Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty, ac mae’n rhan o gynllun ehangach i’w gwneud hi’n haws teithio’n llesol ym Mhencoed. Cafodd y cynllun ei ariannu gan raglen Llywodraeth Cymru, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Datblygwyd y cynllun gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r ysgolion, grŵp mynediad y gymuned leol, a Sustrans gyda chefnogaeth Redrow and Halo Leisure. Cafodd y llwybr newydd ei osod gan Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf.

Wrth frolio’r llwybr fel esiampl wych o sut i annog trigolion i ddewis ffyrdd mwy llesol o deithio yn hytrach na defnyddio ceir, dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau:

Dyma’r tro cyntaf inni osod wyneb o’r fath yn y fwrdeistref sirol i gymryd lle goleuni mwy traddodiadol, er mwyn i’r llwybr gael ei ddefnyddio yn ystod y nos. Mae’n ddatblygiad arloesol a chyffrous ac rydym ni’n sicr y bydd y llwybr hwn yn boblogaidd ymhlith disgyblion a rhieni, a byddant yn gallu dewis gadael y car gartref wrth fynd â’r plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth ariannol barhaus i’r prosiect hwn drwy’r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan y cyngor am arian, buddsoddwyd dros £1.5 miliwn ym Mhencoed dros y tair blynedd diwethaf.

“Rwyf wrth fy modd yn gallu cyhoeddi ein bod wedi llwyddo yn ein cais am fwy o arian i gwblhau trydydd cam y cynllun ym Mhencoed, a fydd yn ehangu’r llwybr oddi ar y ffordd bresennol o Langrallo.

“Bydd y palmant ar hyd ochr orllewinol Heol Llangrallo yn cael ei ledu i greu llwybr oddi ar y ffordd newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr, o gyffordd Heol Llangrallo/Ffordd Pencoed yr holl ffordd i gatiau’r ysgol.

“Mae gwelliannau teithio llesol yn cymryd amser, egni ac arian, ond rydym wrth ein boddau bod rhwydwaith eang o lwybrau cerdded a beicio wedi ei greu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”

Daeth y syniad gwreiddiol i gael llwybr drwy’r caeau gan ddisgybl ifanc yn Ysgol Gynradd Croesty. Dywedodd y pennaeth, Martin Kaye: “Mae ein disgyblion ni bob amser yn mwynhau’r cyfle i deithio ar ddwy olwyn ac maen nhw’n awyddus iawn i gymryd rhan yn y rhaglen Teithiau Llesol sy’n cael ei darparu yn ein hysgol ni gan y cyngor a Sustrans.

“Bu’r plant yn trafod beth oedd yn eu rhwystro rhag beicio, cerdded neu ddefnyddio sgwteri i deithio i’r ysgol, ac fe awgrymon nhw’r posibilrwydd o gael llwybr drwy’r caeau chwarae. Maen nhw wedi eu cyffroi wrth weld y syniad hwnnw’n cael ei wireddu.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu newid arwyddocaol yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â threfnu cynlluniau cerdded a beicio yn sgil Deddf Teithio Llesol (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

“Mae cynlluniau fel hwn yn ei gwneud hi’n bosibl i bobl adael eu ceir gartref a dewis dull o deithio iachach a gwyrddach ar gyfer teithiau byrrach bob dydd, a’i wneud yn rhan o’u harferion dyddiol, gan osod tuedd y gall cenedlaethau’r dyfodol ei dilyn.

“Gobeithiwn y bydd y cyhoeddiad diweddar bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £60 miliwn ychwanegol ar gyfer Teithio Llesol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf yn golygu y byddwn ni’n gallu darparu llawer mwy o gynlluniau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Roger Dutton, o Sustrans: “Wrth weithio gyda phlant a staff Ysgol Gynradd Croesty ar y Rhaglen Teithiau Llesol, mae’n amlwg bod brwdfrydedd mawr ymhlilth cymuned yr ysgol i deithio’n llesol. Fe wnaethom ni weithio gyda’r disgyblion i nodi rhwystrau ac i ddod o hyd i atebion i alluogi mwy o deuluoedd i feicio a defnyddio sgwteri, gan sicrhau bod y disgyblion yn ganolog yn y broses, a bu hyn yn brofiad addysgol gwerthfawr i bawb.

“Mae teithio’n llesol yn creu llawer o fuddion i holl gymuned yr ysgol, ac felly mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddefnyddio llwybrau diogel a chyfleus ble bynnag y mae hynny’n ymarferol. Mae’r llwybr newydd hwn yn ffordd arloesol o annog teuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio sgwteri wrth fynd â’r plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, a pharhau i wneud hynny yn ystod misoedd tywyll y gaeaf hefyd.

“Dylid cymeradwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am geisio gwneud rhywbeth newydd a gobeithiwn weld mwy o arloesi fel hyn yn y blynyddoedd i ddod.”

Chwilio A i Y