Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybr treftadaeth newydd ar gyfer Cwmogwr

Cyn bo hir, bydd hanes Cwmogwr yn cael ei adrodd ar hyd llwybr treftadaeth rhyngweithiol newydd.

Bydd y llwybr yn dechrau ym Mharc Gwledig Bryngarw, ac yn troelli i fyny'r cwm ar hyd y llwybr beicio a cherdded i Nant-y-moel, a bydd paneli gwybodaeth wedi'u lleoli ar ei hyd, yn dogfennu gorffennol yr ardal ac yn amlygu mannau o ddiddordeb, yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded ychwanegol.

Bydd ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn cael ei gysylltu â'r llwybr, er mwyn helpu i ddwyn hanes y cwm i'r presennol, a bydd y llwybr yn cyrraedd uchafbwynt gyda nodwedd gelf newydd ar safle hen Ganolfan Berwyn.

Bydd y Neuadd Goffa yn Nant-y-moel, sydd ar fin cael ei adnewyddu, yn Hyb Treftadaeth ar gyfer y cwm – gan arddangos creiriau a gwybodaeth am dreftadaeth, a bydd yn cynnwys arddangosfa dreftadaeth ddigidol yn y caffi cymunedol.

Mae cyllid gwerth £62,112 wedi cael ei ddarparu tuag at y prosiect gan dîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy'r Gronfa Cymunedau Gwledig Ffyniannus, a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd y llwybr cyffrous hwn yn darparu etifeddiaeth barhaol o hanes Cwmogwr. Gan ei fod yn cael ei greu ar hyd y llwybr beicio, mae'n bosibl y bydd y prosiect yn arwain at gyfleusterau newydd ar gyfer llogi beiciau ym Mharc Gwledig Bryngarw, a bydd gorsaf cynnal beiciau hunanwasanaeth yn cael ei chynnwys ar hyd y llwybr. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd y prosiect yn cymryd tua 18 mis i'w gwblhau.

Bydd gan y gymuned leol ran fawr i'w chwarae yn y prosiect hwn, o ddylunio'r nodwedd gelf i gatalogio'r hanes lleol a chael mynediad at amrywiaeth o hyfforddiant perthnasol. Mae tîm Reach wedi gweithio'n agos gyda'r gwirfoddolwyr cymunedol, gan ddarparu cymorth sydd wedi arwain at geisiadau llwyddiannus am gyllid grant.

Y Cynghorydd Charles Smith, Gweinidog Cabinet y cyngor ar gyfer Adfywio ac Addysg

Chwilio A i Y