Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lleisiwch eich barn ar gynigion ar gyfer Neuadd y Dref Maesteg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gwahodd pobl i ddod i sesiynau galw heibio i weld darluniadau newydd gan arlunydd a thrafod cynlluniau ar gyfer ailddatblygu neuadd dref Maesteg.

Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn Uned 10, Marchnad awyr agored Maesteg, ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 18 Awst rhwng 1pm a 4pm.
  • Dydd Llun 20 Awst rhwng 9am a 12pm.
  • Dydd Mawrth 21 Awst rhwng 5pm ac 8pm.

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac aelodau o dimau adfywio, cadwraeth a dylunio'r cyngor ar gael, ynghyd â phenseiri, i ateb cwestiynau a darparu gwybodaeth ym mhob un o'r sesiynau.

Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw cyflawni gwaith trwsio ac ailwampio a fydd yn diogelu dyfodol yr adeilad 137 mlwydd oed hwn, tra’n darparu cyfleusterau newydd modern sydd wedi'u dylunio i wella ei safle fel lleoliad cymunedol diwylliannol.

Mae enghreifftiau o rai o'r cyfleusterau newydd posibl a allai gael eu cyflwyno yn cynnwys atriwm gwydr i sicrhau gwell mynediad, gofod cymunedol cymdeithasol ac ardaloedd arddangos, llyfrgell newydd sbon, mannau cymorth busnes, canolfan dreftadaeth, ystafelloedd cyfarfod, bar, caffi a chyfleusterau ar gyfer achlysuron.

Mae'r gwaith dylunio manwl ar fin cychwyn, a chynigion ariannu'n cael eu prosesu ar hyn o bryd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a rhaglen 'Adeiladu ar gyfer y Dyfodol' Llywodraeth Cymru.

Rydym ni, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, eisiau adfer ac ailwampio neuadd y dref a chreu lleoliad celf a diwylliant modern, amlbwrpas, a fydd yn sicrhau bod yr adeilad yn aros ar agor ac yn parhau i fod yn ganolog i fywyd y cymoedd.

Nod y digwyddiadau galw heibio hyn yw dangos ein huchelgeisiau ar gyfer y lleoliad eiconig, a sicrhau y gall pobl weld y cynllun a dylanwadu arno, gofyn cwestiynau a chael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn gobeithio bod mewn safle i gyflwyno cais cynllunio ar ddechrau'r hydref fel y gall gwaith ddechrau cyn gynted â phosibl unwaith y bydd y cyllid llawn wedi'i gadarnhau, ac rydym eisiau cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn y sesiynau hyn i'n helpu ni i gyflawni hyn.

Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: " Ailddatblygu neuadd y dref eiconig hon fydd un o'r prosiectau adfywio mwyaf uchelgeisiol i gael ei gyflawni yn yr ardal leol, felly rydym yn ymrwymedig i gynnwys cymunedau Maesteg a Chwm Llynfi ar bob cam o'r broses. Y llynedd, gwnaethom ofyn barn pobl ar y cynigion cychwynnol, ac roeddem wrth ein boddau â'r ymateb a gawsom.

“Rydym wedi defnyddio'r adborth hwn, ynghyd â'r safbwyntiau a rannwyd yn ystod ein hymgysylltu parhaus ag unigolion, busnesau a grwpiau lleol, ac yn ystod ein digwyddiad llwyddiannus diweddar, Ein Stori, i ddatblygu'r weledigaeth hon ymhellach.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed syniadau am sut gallwn ddathlu a dehongli treftadaeth, hanes, straeon ac atgofion cyfoethog Maesteg trwy ddyluniad mewnol yr adeilad. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y digwyddiadau hyn i ddweud eich dweud a'n helpu ni i lunio'r cynlluniau arfaethedig."

Mae Neuadd y Dref Maesteg yn dyddio'n ôl i 1881, pan y’i hariannwyd hi gan fwynwyr lleol a'i dylunio gan Henry Harris o Gaerdydd.

Mae casgliad o waith yr arlunydd enwog, Christopher Williams, ynddi ac mae ganddi dŵr cloc nodweddiadol a adnabyddir ledled Cwm Llynfi.

Chwilio A i Y