Lleddfu cyfyngiadau coronafeirws mewn mynwentydd lleol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 27 Ebrill 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau o ran mynediad i fynwentydd yn cael eu codi.
Yn dilyn cyngor sydd wedi'i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru ac mewn trafodaeth ag awdurdodau lleol eraill a threfnwyr angladdau, bydd mynedfeydd i fynwentydd sy'n cael eu cynnal gan y cyngor, gan gynnwys tir Amlosgfa Llangrallo, yn cael eu hagor unwaith eto ddydd Mawrth 28 Ebrill 2020.
Cyflwynwyd y cyfyngiadau nifer o wythnosau yn ôl er mwyn cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyfyngu'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws COVID-19.
Bydd presenoldeb mewn angladdau ar lan y bedd yn parhau i gael ei gyfyngu i uchafswm o 10 aelod agos o'r teulu, ac mae pobl sy'n ymweld â beddau yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol ar bob adeg. Bydd arwyddion yn cael eu gosod hefyd i roi cyngor i ymwelwyr ar sut i gadw'n ddiogel.
Mae mynwentydd y cyngor yn amrywio o ran maint a chynllun, felly roedd rhaid cyflwyno'r cyfyngiadau er mwyn cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws COVID-19. Roedd y penderfyniad hwnnw yn unol â chyngor cenedlaethol ar y pryd ac nid oedd yn un a wnaed heb ystyriaeth fanwl gan ein bod yn gwerthfawrogi bod ymweld â beddau ffrindiau ac aelodau'r teulu yn gallu rhoi cysur i bobl.
Rwy'n hapus bod mynediad at fynwentydd yn cael ei adfer, ond ni allaf bwysleisio’n ddigon cadarn pa mor bwysig fydd cadw pellter cymdeithasol, ac i gadw eich hun yn ddiogel rhag y perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Cawsom adroddiadau’n flaenorol bod pobl yn defnyddio mynwentydd fel llwybrau byr neu hyd yn oed fel rhan o’u llwybr wrth fynd â’r ci am dro, felly mae'n rhaid deall mai bwriad y penderfyniad hwn yw cefnogi pobl sy'n galaru neu sydd am fynd i fynwentydd i ddangos parch i’r meirwon.” Bydd y cyngor yn parhau i fonitro ac adolygu'r sefyllfa rhag ofn y bydd angen gweithredu newidiadau pellach er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd, ond hoffem ddiolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn y cyfamser.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau