Llai na 10 diwrnod ar ôl i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Mehefin 2021
Bellach mae llai na 10 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau o 30 Mehefin 2021 i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
Mae’r cynllun, sy’n rhan o system fewnfudo newydd y DU yn dilyn Brexit, yn cynnig yr hawl i ddinasyddion 27 aelod-wladwriaeth yr UE, yn ogystal â dinasyddion y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, barhau i fyw a gweithio yn y DU fel yr oeddynt pan oedd y wlad yn rhan o’r UE.
Dylai bob un o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau eu teulu a oedd yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais ar unwaith. Gallwch wneud cais yn rhad ac am ddim ond rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021.
Os oes angen cefnogaeth annibynnol, gyfrinachol a rhad ac am ddim arnoch i wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog neu Breswylydd Cyn-sefydlog, mae nifer o wasanaethau ar gael i unrhyw un fanteisio arnynt gan ystod o bartneriaid cymunedol, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Mind Cymru, Newfields Law, Settled a TGP Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr EUSS a'r gefnogaeth sydd ar gael i wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog a statws preswylydd sefydlog cyn y dyddiad cau, ymunwch â gweminar ar ddydd Iau 24 Mehefin, rhwng 1 pm-2pm, trwy glicio ar y ddolen gweminar hon. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost i wgprojects@citizensadvice.org.uk
I gael gwybod a oes angen i chi wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ewch i dudalen we Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Llywodraeth y DU . Os oes angen i chi wneud cais, mae'n rhaid i bob aelod o'r teulu wneud cais. Mae hyn yn cynnwys plant ac unrhyw un dan 21 oed.
Gall preswylwyr agored i niwed gael cymorth gyda'u ceisiadau drwy edrych ar dudalen gymorth EUSS ar y we.
Gyda llai na 10 diwrnod i fynd nawr, dyma alwad frys i’r rhai sy’n gymwys i wneud cais nawr, ac i beidio ag oedi.
Mae gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn 30 Mehefin 2021 yn sicrhau eich hawliau presennol yng nghyfraith y DU nes eich bod wedi cael statws.
Hyd yn hyn, mae mwy na 1,500 o ymgeiswyr wedi cael statws preswylydd sefydlog ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a 620 o ymgeiswyr wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog, yn dibynnu ar ba mor hir maent wedi byw yma.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Ledled y DU, mae dros bum miliwn o bobl wedi cael statws preswylydd sefydlog neu breswylydd cyn-sefydlog, gan ganiatáu i filiynau o ddinasyddion barhau i weithio, astudio, a chael mynediad at ofal iechyd am ddim a budd-daliadau yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, ewch i dudalen we Paratoi ar gyfer Brexit Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.