Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Leanne yn coginio’i ffordd i lwyddiant wrth gipio teitl y cogydd ysgol rhanbarthol gorau

Mae’r cogydd ysgol Leanne Rees Sheppard wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru – ac mae’r disgyblion y mae’n coginio bwyd ar eu cyfer yn Ysgol Tremain ar ben eu digon. 

Fe wnaeth y disgyblion helpu Leanne i ddewis pa brydau i’w coginio, a gwnaethant yn siŵr bod rhai o’u ffefrynnau ar y fwydlen.

Mae’r gystadleuaeth, sydd â’r nod o ddangos safon uchel a gwerth maethol prydau ysgol cyfoes, wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Arweiniol dros Arlwyo mewn Addysg.

Cafodd y cystadleuwyr gyllideb o £1.30 y pen ar gyfer cynhwysion, a roddwyd 90 munud iddyn nhw baratoi pryd dau gwrs arbennig.

Enillodd Leanne y wobr gyntaf ar ôl i’r beirniad flasu ei phryd blasus o beli cig oen a mintys mewn saws tomato, stwnsh tatws melys a chaws Caerffili, a brocoli wedi’i stemio â moron. 

Ar ôl y prif gwrs, cyflwynodd bwdin reis cneuen goco â chompot afalau ac eirin, a phic ar y maen draddodiadol.

Dywedodd Leanne: “Roeddwn i'n falch o gynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd gan fy mwydlen flas Cymreig cryf a defnyddiais gymaint o gynhwysion lleol â phosibl, ac roedd hefyd yn bodloni gofynion maeth rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion.

Roeddwn i'n falch o gynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd gan fy mwydlen flas Cymreig cryf a defnyddiais gymaint o gynhwysion lleol â phosibl, ac roedd hefyd yn bodloni gofynion maeth rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion. Cafodd proffesiynoldeb y cystadleuwyr eraill a chreadigrwydd eu bwydlenni gryn argraff arnaf, ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol genedlaethol.

Leanne Rees Sheppard

Bydd Leanne yn ymuno ag enillwyr rhanbarthol eraill o bob cwr o'r DU i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth y cogydd ysgol genedlaethol, a gynhelir yn Stratford Upon Avon ym mis Mawrth.

Rydym ni’n falch iawn bod Leanne wedi ennill y gystadleuaeth. Mae’r plant wrth eu boddau â’i phrydau bwyd, ac rydym ni i gyd ar ben ein digon ei bod hi wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol genedlaethol.

Deborah Todd, Pennaeth Ysgol Gynradd Tremain

Mae hyn yn gyfle gwych i arddangos sgiliau a doniau ein tîm arlwyo anhygoel, yn enwedig yn Ysgol Gynradd Tremain. Rwy’n siŵr y bydd trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â mi wrth longyfarch Leanne, ac wrth ddymuno pob llwyddiant iddi yn y rownd derfynol.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y