Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio peilot ‘Pleidleisio Hyblyg’ yn y cyfnod sy'n arwain at etholiadau lleol

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal cynllun peilot 'Pleidleisio Hyblyg', yn yr etholiadau Llywodraeth Leol ym Mai 2022.

Mae’n gyfle, i bobl sy'n gymwys, i bleidleisio ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy yn hytrach nag ar un diwrnod yn unig. Rhagwelir y bydd yr ymestyniad yn y cyfle i bleidleisio yn arwain at gynnydd yn y nifer fydd yn pleidleisio yn yr etholiadau Llywodraeth Leol sydd ar ddod.

Bydd pleidleiswyr sy'n byw mewn Wardiau Etholiadol penodol yn gallu cymryd rhan yn y cynllun peilot, ac mae'r rhain yn cynnwys y wardiau canlynol, fel sydd wedi ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru:

  • Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf
  • Canol Dwyrain Bracla
  • Gorllewin Bracla
  • Canol Gorllewin Bracla
  • Corneli
  • Y Pîl, Bryn Cynffig a Chefn Cribwr
  • Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre

Bydd pleidleiswyr sy'n byw yn y wardiau hyn yn gallu pleidleisio ddydd Mawrth 3 a dydd Mercher 4 Mai cyn y diwrnod pleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod ar ddydd Iau 5 Mai.

Yn ogystal, cynhelir peilot 'Pleidleisio Hyblyg' ar wahân yn Ysgol Uwchradd Cynffig lle gall disgyblion yr ysgol sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac sy’n byw oddi mewn i Ward Etholiadol Y Pîl, Bryn Cynffig a Chefn Cribwr fwrw eu pleidlais yn yr ysgol rhwng 8.30am a 4.30pm ar ddydd Mawrth 3 Mai cyn y diwrnod pleidleisio.

Cafodd y wardiau hyn eu dewis ar sail y niferoedd isel a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol diwethaf, felly mae'n gyfle gwych i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio gyda phleidleiswyr yn cael dewis o dri diwrnod i fwrw eu pleidlais.

Rydym yn rhagweld niferoedd uchel o bleidleiswyr ifanc yn pleidleisio yn y peilot ysgol sy'n digwydd yn Ysgol Uwchradd Cynffig. Gall disgyblion na fyddai wedi pleidleisio o'r blaen wneud hynny mewn amgylchedd cyfarwydd yn ystod oriau'r ysgol.

Mae'n hanfodol fod unrhyw un sydd ddim ar y Rhestr Etholiadol yn gwneud ymdrech i gofrestru er mwyn pleidleisio a dweud eu dweud ar 5 o Fai.

Mark Shephard, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi, neu berson ifanc sydd yn eich gofal, yn 16 neu’n 17 mlwydd oed cyn neu ar 5 Mai 2022, gallwch gofrestru i bleidleisio a chael dweud eich dweud o dan ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru.

Mae cofrestru i bleidleisio yn cymryd pum munud a gallwch wneud hynny ar-lein,  ewch i wefan UK Government  am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.

Chwilio A i Y