Lansio menter Strydoedd Mwy Diogel newydd gwerth £750,000 yn swyddogol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Medi 2022
Mae menter 'Strydoedd Mwy Diogel' newydd wedi'i lansio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o gyflwyno dulliau newydd i fynd i'r afael â diogelwch merched, troseddau cymdogaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r rhaglen yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, ac yn ddiweddar, dyfarnwyd bron i £750,000 o gyllid i'r prosiect gan y Swyddfa Gartref fel rhan o raglen gwerth £75m sy'n annog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol i wneud cais am fuddsoddiad ar gyfer mentrau sy'n atal troseddau cymdogaeth.
Cynhaliwyd digwyddiad lansio swyddogol yn 'Y Parth', sef canolfan cymorth cymunedol, sydd wedi elwa ar gyllid gan y fenter yn y gorffennol. Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Cymorth i Ferched Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn bresennol yn y digwyddiad. Roedd gweithgareddau'n cael eu cynnal a gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i drigolion yng Nghanolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd Brackla) hefyd.
Yn y gorffennol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi buddsoddi £595,000 i uwchraddio systemau Camerâu Cylch Cyfyng ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl a Phencoed. Mae camerâu newydd wedi'u gosod ac mae'r ganolfan fonitro hefyd wedi'i gwella. Mae hwn yn ymgyrch 24/7 ac yn gydweithrediad â Heddlu De Cymru.
Bydd y cyllid ychwanegol o'r fenter 'Strydoedd Mwy Diogel' bellach yn golygu bod modd gosod rhagor o Gamerâu Cylch Cyfyng ledled yr ardal yn gyffredinol.
Mae Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y bartneriaeth drwy gynnig hyfforddiant ar sut i ymyrryd os ydych yn digwydd bod yn bresennol mewn digwyddiad, ac mae'r hyfforddiant hwnnw yn cael ei gyflwyno i holl staff colegau, chweched dosbarth a'r economi nos.
Y bwriad yw lleihau ac atal trais yn erbyn merched. Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg.
Mae'r prosiectau yn cynnwys:
- Gosod Camerâu Cylch Cyfyng newydd ar y stryd mewn lleoliadau allweddol ledled y fwrdeistref sirol
- Cyflwyno cerbydau ac offer Uned Ieuenctid Symudol er mwyn cefnogi ymgysylltiad ieuenctid drwy gyflwyno gweithgareddau ystyrlon mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf
- Sioeau teithiol atal troseddau sy'n targedu ardaloedd penodol er mwyn annog Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth a chyflwyno pecynnau gwybodaeth sydd â'r nod o leihau byrgleriaethau preswyl
- Cynyddu patrolau'r heddlu a chyflwyno marsialiaid tacsi yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod economi'r nos er mwyn lleihau troseddau aflonyddu a thrais, a meithrin ymdeimlad cryfach o ddiogelwch
- Comisiynu 'Cynllun Ardal Ddiogel' ar gyfer canol trefi lle all pobl geisio lloches os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu mewn perygl
- Cyflwyno prosiect celf stryd a sioeau Stryd Grwydrol mewn ardaloedd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr lle mae graffiti a fandaliaeth yn broblem, er mwyn gwella'r amgylchedd a lleihau'r ofn o droseddau
- Cyflwyno hyfforddiant ac ymyriadau 'Paid Cadw'n Dawel' i fyfyrwyr a gweithwyr economi'r nos er mwyn lleihau trais yn erbyn merched a genethod
- Cynnig dosbarthiadau hunanamddiffyn am ddim mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol
Mae diogelwch cymunedol yn un o flaenoriaethau ein hagenda, ac rydym ar ben ein digon bod y cyllid newydd Strydoedd Mwy Diogel hwn eisoes yn cael ei wario'n effeithiol a'i fod o fudd i'n cymunedau lleol.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n partneriaid yn Heddlu De Cymru a gwasanaethau golau glas eraill er mwyn sicrhau nad yw trigolion y fwrdeistref sirol yn teimlo dan fygythiad nac mewn perygl yn ein cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio:
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: "Rydym wedi gweithio'n agos â'r cynghorau a phartneriaid eraill i nodi'n fanwl prif hyrwyddwyr y problemau lleol, a'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â'r problemau hyn ar y cyd.
"Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi i wneud strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i ferched a genethod, yn ogystal â lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled ein cymunedau. Mae atal trais yn erbyn merched a genethod wedi bod yn flaenoriaeth benodol i mi erioed fel Comisiynydd, ac er ein bod wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â'r mater yn ne Cymru, mae'n parhau i fod yn un o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu, a rhaid i ni ymdrechu'n barhaus i wneud mwy os ydym am leihau'r lefel o fygythiadau ac aflonyddwch mae merched a genethod ledled ein cymunedau yn ei brofi.
"Wrth gydweithio, rydym yn canolbwyntio ar fuddion uniongyrchol mesurau ymarferol fel Camerâu Cylch Cyfyng a gwelliannau ffisegol i'r amgylchedd, a chyflawni gwelliannau cynaliadwy hirdymor er mwyn creu cymunedau diogel, hyderus a gwydn. Heb os, gorau gweithio, cydweithio."