Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio hwb cymorth cyflogaeth newydd ym Mhorthcawl

Heddiw (17 Hydref), agorodd tîm Cyflogadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hwb cymorth newydd ar gyfer ceiswyr gwaith ym Mhorthcawl.

Mae'r hwb newydd, sydd wedi'i leoli yn hen Feddygfa Portway, yng nghanol Porthcawl, yn cynnig mynediad rhwydd at gymorth a chyngor arbenigol ar bob agwedd ar hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd yr hwb ar agor ddyddiau Llun, dyddiau Mawrth a dyddiau Iau, rhwng 9:30am a 2:30pm, ac yn cynnig ystod o adnoddau, o fentora i chwilio am swyddi. Bydd yr hwb hefyd yn cynnal bore goffi fisol ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin a'r teuluoedd sy'n eu lletya, gan ddechrau ar 25 Hydref, 12-1pm.

Ers 2016, mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi dros bum mil o unigolion, yn cynnwys 740 o bobl ifanc.

Mae 1,800 wedi cael hyfforddiant, 360 wedi cael cymorth i wirfoddoli a 1,740 wedi ennill cyflogaeth. Yn ogystal, cefnogwyd 160 o bobl oedd eisoes yn gweithio i ennill sefyllfa well mewn swydd.

Mae gan yr hwb ystafell hyfforddi ar gyfer cyrsiau, clwb swyddi a mynediad i'r rhyngrwyd i gefnogi pobl wrth iddynt chwilio am waith.

Mae yna hefyd ystafell gyfarfod lai ar gael ar gyfer cynnal apwyntiadau unigol gyda mentoriaid pwrpasol, a fydd yn helpu i gynllunio taith gyflogaeth unigolyn.

Anelir y rhaglen Gyflogaeth at unigolion dros 16 oed, sydd:

  • yn ddi-waith
  • angen mwy o oriau
  • angen ail swydd neu swydd newydd

 Mae’r rhaglen yn dod o hyd i gymwysterau galwedigaethol, cyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â rhoi’r cyfle i ddatblygu rhinweddau personol, megis hyder.

Mae yna hefyd wasanaeth brysbennu ar gael, yn cyfeirio unigolion at yr help mwyaf addas cyn gynted â phosibl, ynghyd â chysylltiadau ag amrywiaeth eang o rwydweithiau cymorth eraill fel canolfannau byd gwaith, Baobab Bach (Pantrïau Cymunedol), Cyngor ar Bopeth (CAB), Cyfle Cymru, yn ogystal â Cholegau Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae cynnig gwell mynediad at gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ledled y fwrdeistref sirol yn un o flaenoriaethau allweddol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r hybiau newydd yn cynnig cyfle i bobl gwrdd ag ymgynghorwyr cyflogaeth profiadol i drafod opsiynau ar gyfer cael mynediad at gyflogaeth neu hyfforddiant addas.

Mae'r hinsawdd economaidd mewn sefyllfa druenus ar hyn o bryd, ac mae'n iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl i ddod o hyd i gyfleoedd, gwaith, addysg a hyfforddiant ystyrlon.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr, a agorodd yr hwb newydd yn swyddogol:

Mae rhaglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi’i chynllunio i helpu cyfranogwyr ddysgu

sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau at weithio a chael mynediad at swyddi gwag, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith.

Chwilio A i Y