Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio holiadur ymchwil twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr

Mae holiadur newydd wedi'i lansio yn annog preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i rannu eu safbwyntiau ar dwristiaeth yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae twristiaeth yn chwarae rhan fawr yn economi leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 2019, y flwyddyn olaf 'arferol' cyn Covid, ymwelodd gyfanswm o 3.72 miliwn o bobl â'r fwrdeistref.

Mae'r holiadur yn ceisio safbwyntiau preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael gwybod beth yw cryfderau a gwendidau'r ardal yn eu barn nhw, pa fath o weithgareddau mae pobl yn eu gwneud a'r llefydd maen nhw'n ymweld â nhw pan maen nhw'n dod i'r ardal a pham, a pha gyfleoedd y dylid eu harchwilio er mwyn atgyfnerthu ymhellach y profiad i dwristiaid.

Bydd y wybodaeth a gasglwyd o'r holiadur yn cael ei defnyddio i ddatblygu 'Cynllun Rheoli Cyrchfan', sy'n sefydlu dyheadau a blaenoriaethau'r Cyngor am y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn gynllun sy'n ceisio dwyn ynghyd y rheini sydd â diddordeb yn nyfodol twristiaeth yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys:

  • Y sector preifat, yn gyfrifol am redeg busnesau yn ymwneud â thwristiaeth a bodloni anghenion bob dydd ymwelwyr.
  • Adrannau'r Llywodraeth Leol, yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau sy'n effeithio ar reoli cyrchfan.
  • Y gymuned leol sydd â budd mewn cyfleoedd yn ymwneud â thwristiaeth a'r effeithiau posibl ar ei ffordd o fyw.

Mae gennym economi ymwelwyr lewyrchus ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n dathlu cryfderau unigryw y lleoliad, yn cefnogi swyddi, yn cynhyrchu cyfleoedd busnes ac yn gwella'r amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr a phobl leol. Hoffem barhau â'r llwyddiant hwnnw.

Mae hyn yn golygu datblygu ymhellach yr economi ymwelwyr arloesol a chynaliadwy sy'n gweddu'n dda i'r ardal ac sy'n cyflawni buddion net i'r boblogaeth leol am genedlaethau i ddod. Yn ogystal, hoffem weld economi ehangach y Fwrdeistref Sirol yn elwa drwy gryfhau'r ddelwedd o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a datblygu cysylltiadau â sectorau eraill yr economi.

Rydym yn annog pobl i gymryd rhan a lleisio eu barn drwy lenwi'r holiadur ar-lein hwn

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Mae dolenni i'r holiadur ar-lein yn Gymraeg a Saesneg i'w cael yma –

https://www.surveymonkey.co.uk/r/VisitBridgendSurvey

https://www.surveymonkey.co.uk/r/Arolwg_Croeso_i_Ben-y-Bontar_Ogwr

Gallwch weld Cynllun Rheoli Cyrchfan cyfredol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yma - Cynllun Rheoli Cyrchfan CBS Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2022

Chwilio A i Y