Lansio grantiau cyfnod atal byr cenedlaethol ar gyfer busnesau
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Hydref 2020
Mae cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei lansio ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Mercher 28 Hydref i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i gyfyngiadau'r cyfnod atal byr.
Mae'r Gronfa i Fusnesau yn cynnwys darparu nifer o grantiau ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, rhai sefydliadau nid-er-elw a rhai busnesau mewn sectorau eraill.
Mae'n cynnwys y Grant Ardrethi Annomestig a'r Grant Dewisol
Bydd y grantiau ar agor i geisiadau o ddydd Mercher, 28 Hydref tan 5pm ar 20 Tachwedd neu pan fydd y gronfa wedi cael ei hymrwymo'n llawn.
Y Grant Ardrethi Annomestig (NDR) - Grant 1
Mae grant o £5,000 ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi cael eu gorfodi i gau - fel y'u diffinnir gan y rheoliadau - ac sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Bydd angen i fusnesau fod ar restr ardrethu NDR ar gyfer eu hawdurdod lleol ar 1 Medi 2020 a bydd angen iddynt lenwi ffurflen gofrestru syml i gael y grant. Rhaid i fusnesau fod yn gyfrifol am ardrethi busnes sy'n daladwy i'r awdurdod lleol i fod yn gymwys i gael y grant hwn.
Mae’r canllawiau’n rhestru’r eiddo a fydd yn elwa o’r rhyddhad fel eiddo sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf:
- Fel siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu a lleoliadau cerddoriaeth fyw
- Ar gyfer ymgynnull a hamdden
- Fel gwestai, tai llety a safleoedd preswyl a llety hunanarlwyo.
Mae'r grant hefyd ar gael i sefydliadau nid-er-elw sy'n meddiannu eiddo cymwys fel siopau elusennol, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol rhannol ar yr eiddo hynny.
Y Grant Ardrethi Annomestig (NDR) - Grant 2
Grant o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 - mae yna rhai eithriadau. Rhaid i fusnesau fod yn gyfrifol am ardrethi busnes sy'n daladwy i'r awdurdod lleol i fod yn gymwys i gael y grant hwn.
Yn dibynnu ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd, gall ymgeiswyr am Grant 2 hefyd wneud cais am y grantiau atodol canlynol:
- Bydd busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau lleol am 3 wythnos neu fwy ac sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol (gostyngiad o fwy na 50 y cant mewn trosiant) hyd at 23 Hydref yn gymwys i gael grant pellach o £1,000
- a bydd busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi'u gorfodi i gau - fel y'u diffinnir gan y rheoliadau - o ganlyniad i Gyfnod Atal Byr y Coronafeirws hefyd yn gymwys i gael grant atodol arall gwerth £2,000 gan eu hawdurdod lleol.
Bydd angen i fusnesau fod ar restr ardrethu NDR eu hawdurdod lleol ar 1 Medi 2020 a bydd angen iddynt lenwi ffurflen gais syml i gael y grant.
Ystyrir arcedau o’r math y gellid eu dosbarthu’n ddifyrrwch yn hytrach nag eiddo hapchwarae yn sefydliadau hamdden ac maent yn gymwys i gael y grantiau naill ai drwy’r llwybr rhyddhad ardrethi i fusnesau bach neu, os yw gwerth trethadwy’r safle yn eu gwneud yn gymwys, am y grant mwy o £5,000 fel cyfleusterau hamdden.
Y Grant Ardrethi Annomestig (NDR) - Elusennau a Chlybiau Chwaraeon
Grant o £1,000 i bob trethdalwr sy’n gymwys i gael rhyddhad elusennol a rhyddhad Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch ac sy'n meddiannu eiddo â gwerth trethadwy o hyd at £12,000.
Mae disgresiwn gan awdurdodau lleol i ddarparu grantiau i gyrff nid-er-elw y maent yn eu hystyried yn gweithredu at ddibenion elusennol ond nad ydynt yn cael rhyddhad elusennol na rhyddhad CASC ar hyn o bryd.
Dim ond i sefydliadau nid-er-elw sy’n cael rhyddhad ardrethi dewisol neu sydd â hawl iddo ac sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch y mae’r disgresiwn hwn yn berthnasol. Bydd Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol hefyd yn gymwys i wneud cais am y grantiau atodol os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd y manylir arnynt uchod.
Gall darparwyr gofal plant sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach 100% ar hyn o bryd fod yn gymwys i gael y grant o £1,000.
Grant Dewisol 1
Mae grant dewisol o £1,500 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'i diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU sy'n gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80 y cant o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
Grant Dewisol 2
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'i diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU sy'n gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
- AC sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau lleol am 3 wythnos neu fwy hyd at Hydref 23 ac wedi profi gostyngiad o 50% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw.
Ni all busnesau wneud cais am Grant 1 a Grant 2.
Bydd angen i fusnesau gadarnhau y bydd hyfywedd y fenter dan fygythiad heb y gefnogaeth grant, ac amlinellu pam.
Rydym yn croesawu’r cyllid newydd hwn gan Lywodraeth Cymru sydd yn anelu at ddarparu cymorth llif arian i fusnesau i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod clo.
Mae'n ceisio ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Mae'n ddealladwy bod busnesau sydd mewn perygl gwirioneddol o gau'n barhaol yn poeni'n fawr am y dyfodol - rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael ymateb cyflym i'w ceisiadau, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ein hadnoddau i'w cefnogi nhw yn y cyfnod hynod anodd hwn.
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
I wneud cais am unrhyw un o'r grantiau hyn neu i gael mwy o fanylion am y grantiau sydd ar gael fel rhan o'r gronfa newydd hon, ewch i dudalen gwe Cymorth busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Mercher 28 Hydref.
Prosesir ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Gall hyn arwain at beidio cymeradwyo ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi cael ei hymrwymo'n llawn.