Lansio Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer tenantiaid y sector rhentu preifat
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Grant Caledi i Denantiaid gwerth £10m ar gael i denantiaid y sector rhentu preifat sydd wedi methu talu rhent am fwy nag wyth wythnos rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021. Bydd yn eu helpu nhw i aros yn eu cartrefi a'u gwarchod rhag colli eu tenantiaeth.
Mae'r grant wedi cael ei ddylunio i gefnogi tenantiaid sy'n ei chael hi'n anodd i dalu rhent oherwydd cwymp mewn incwm, o ganlyniad i'r pandemig.
Gall ôl-ddyledion rhent fod yn ganlyniad i golli incwm oherwydd ffyrlo, llai o waith, neu oherwydd mai dim ond Tâl Salwch Statudol a lwyddwyd i'w hawlio tra'n sâl gyda Covid-19.
Mae'r grant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, ac mae ar gael i bobl nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai. Mae'n cymryd lle'r Benthyciad Arbed Tenantiaeth a gafodd ei gyflwyno ym mis Hydref 2020. Bydd y benthyciad yn troi yn grant i unrhyw un a'i derbyniodd.
Nod y Grant Caledi i Denantiaid yw helpu'r rhai hynny sydd mewn angen, a gwarchod pobl a theuluoedd rhag y trawma o gael eu hel o gartref a bod yn ddigartref.
Os ydych yn byw mewn llety rhentu preifat, ac wedi profi ôl-ddyledion rhent rhwng mis Mawrth 20 a Mehefin 21 o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, gallech fod yn gymwys i gael y grant, a byddwn yn eich annog i gysylltu â ni.
Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd i dalu eu rhent - hyd yn oed os ydynt newydd ddechrau cael trafferthion - i gysylltu â'u landlord neu asiant, a sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru, er mwyn derbyn y cyngor a'r gefnogaeth gywir.
Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Gwneir ceisiadau drwy'r awdurdod lleol. I wneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, e-bostiwch housing@bridgend.gov.uk. Nodwch 'Grant Cymorth GCD' ym mlwch testun eich e-bost.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi profi caledi ariannol oherwydd pandemig Covid-19, oedd yn golygu nad oeddent wedi gallu talu rhent. Nid yw'r grant ar gael ar gyfer ôl-ddyledion a brofwyd y tu allan i'r dyddiadau uchod, neu i'r rheiny nad ydynt wedi talu rhent yn fwriadol i'w landlord neu asiant.
Am ragor o fanylion ar gymhwystra'r grant, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.