Lansio arolwg ar brofi a brechu Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 12 Mawrth 2021
Gofynnir i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu adborth am wybodaeth ar brofi a brechu coronafeirws.
Mae cyfathrebiadau a negeseuon iechyd cyhoeddus wedi chwarae rhan allweddol mewn hysbysu pobl am sut i reoli'r peryglon ac atal trosglwyddo feirws yn ystod pandemig Covid-19, yn cynnwys brechiadau.
Mae arolwg wedi cael ei ddatblygu gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Cwm Taf Morgannwg i edrych ar y safbwyntiau ar brofi a brechu er mwyn arwain y ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda thrigolion yn y dyfodol.
Mae cwestiynau'n cynnwys a ydych wedi cael prawf Covid-19, a ydych wedi cael cynnig brechiad, pa ymddygiadau sy'n bwysig i chi a mwy. Ni chesglir data personol neu ddata a fydd yn datgelu unigolyn.
Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos dydd Sul 21 Mawrth. I gymryd rhan, ewch i wefan astudiaeth safbwyntiau cyhoeddus.