Lansiad ymgynghoriad ynghylch cyfleusterau ar gyfer plant ag anghenion addysgol ychwanegol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Rhagfyr 2021
Mae rhieni, staff, disgyblion ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb am gael dweud eu dweud ynghylch y canolfannau adnoddau dysgu arfaethedig i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn dwy o ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddai’r canolfannau yn Ysgol Cynwyd Sant ac Ysgol Gynradd Tremains yn darparu ar gyfer disgyblion ag anableddau dysgu cymedrol ac anhwylderau sbectrwm awtistig.
Byddai’r cynlluniau arfaethedig yn gweld canolfannau’n cael eu sefydlu yn y ddwy ysgol o 1 Medi 2022, gan gynnig mynediad at brofiadau unigol, grwpiau bach a dosbarth cyfan i’r disgyblion.
Daw hyn ar amser pan fo awdurdodau lleol ledled y DU yn gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Caiff ymgynghoriad ei lansio er mwyn rhoi’r cyfle i rieni, staff, disgyblion a chyrff llywodraethu yn y ddwy ysgol yn ogystal â phartïon eraill â diddordeb, gael dweud eu dweud ynghylch y cynigion.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd ffordd ragweithiol wrth i’r galw am wasanaethau ar gyfer unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol gynyddu.
Mae’r canolfannau adnoddau dysgu hyn yn allweddol er mwyn sicrhau fod disgyblion sydd â diagnosis o anhawsterau dysgu ychwanegol neu anhwylderau sbectrwm awtistig yn cael mynediad at brofiadau addysg prif ffrwd gyda’u cyfoedion a hefyd yn cael y cyfle i ail-integreiddio i’r brif ffrwd pan fo’n briodol.
Bydd y disgyblion sy’n defnyddio’r ganolfan yn elwa o gael bod yn rhan o gymuned brif ffrwd yr ysgol yn ogystal ag elwa o’r ddarpariaeth arbenigol. Pan agorir yr ymgynghoriad, gobeithiwn y bydd y sawl sy’n gysylltiedig â’r ddwy ysgol hon yn manteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud ynghylch y cynigion ac yn helpu i ffurfio’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio