Joe, arwr D-Day, yn ymuno â’r coffa ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019
Roedd un o gyn-filwyr D-Day yn ŵr gwadd mewn digwyddiad coffa a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog (dydd Sadwrn 29 Mehefin).
Ymunodd Joe Corless, sy’n naw deg a phedwar oed, â milwyr eraill a myfyrwyr o’r coleg lleol sy’n paratoi pobl ar gyfer y fyddin i godi baner Diwrnod y Lluoedd Arfog y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gosododd Joe dorch o babïau hefyd er cof am y milwyr a syrthiodd, y bu ef yn ymladd wrth eu hochr yn yr Ail Ryfel Byd.
Er ei fod wedi byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers mwy na 70 mlynedd, yn Torquay y ganwyd Joe. Ymrestrodd gyda’r Môr-filwyr Brenhinol yn Plymouth yn 1941, gan ddweud celwydd am ei oed, ac yntau yn rhy ifanc yn ddim ond 16!
Roedd yn benderfynol o wasanaethu ei wlad, ac ar 6 Mehefin 1944 roedd ymysg minteioedd dewr y milwyr o Brydain a fu’n ymosod ar draethau Normandi ar D-Day. O 7:30am ar y bore tyngedfennol hwnnw, gyrrodd Joe y cwch glanio a gariodd y milwyr i draeth Sword, y fwyaf dwyreiniol o’r pum ardal lanio.
Saith deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd yn anrhydedd i Joe gael dychwelyd i arfordir Normandi ar gyfer y digwyddiadau coffa diweddar - trip a “ddaeth â llawer o atgofion yn ôl”, dywedodd.
Ar ôl diwedd y rhyfel, gadawodd Joe y Môr-filwyr Brenhinol yn 1946 a symud i Gaerau flwyddyn yn ddiweddarach. Ers hynny mae wedi byw ym Maesteg ac Abercynffig, ac erbyn hyn mae wedi ymgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Joe ei ysbrydoli i ymuno â'r Môr-filwyr Brenhinol gan ei dad, a oedd wedi ymladd yn Rhyfel y Boer, ac mae’n dal yn aelod o gangen Abertawe o'r Môr-filwyr Brenhinol.
“Cefais fy magu ar hanesion fy Nhad, felly roeddwn i wastad eisiau bod yn Fôr-filwr Brenhinol”, dywedodd Joe. “A dyna ydw i o hyd.”
Heb arwyr fel Joe, byddai’r byd yn lle gwahanol iawn. Rydym yn fawr ein dyled i Joe, ac eraill fel fe, ac roedd hi’n anrhydedd ei gael yma fel ein gwestai arbennig wrth inni ddathlu’r Lluoedd Arfog.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau a’i Eiriolwr dros y Lluoedd Arfog
Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddynodi’n genedlaethol ddydd Sadwrn 29 Mehefin. Ceir rhagor o fanylion ar wefan.