Hysbysiadau Gwella wedi'u cyflwyno i bedwar tafarn
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 29 Medi 2020
Mae swyddogion gorfodi wedi bod yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod safleoedd trwyddedig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydymffurfio â'r rheoliadau diweddaraf am y coronafeirws.
Dros y penwythnos, cynhaliwyd ymweliadau â dros 20 o dafarndai a bariau yn ardaloedd Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg ac Abercynffig gyda Hysbysiadau Gwella yn cael eu cyflwyno i dri thafarn.
Derbyniodd The Royal Oak ar South Road hysbysiad oherwydd pryderon ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol - mae angen iddo sicrhau bellach ei fod yn cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y cwsmeriaid yn eistedd dau fetr oddi wrth ei gilydd os nad ydynt o'r un cartref.
Derbyniodd The Marine ar yr Esplanade ym Mhorthcawl yr hysbysiad oherwydd pryderon ynghylch cadw pellter cymdeithasol ac oherwydd nad oedd gwasanaeth gweini wrth y bwrdd bob amser ar waith.
Yn y cyfamser, cafodd hysbysiad ei gyflwyno i'r Prince of Wales ym Mhorthcawl er mwyn sicrhau bod y cwsmeriaid a'r staff yn gwisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i'r dafarn ac wrth gerdded o gwmpas y dafarn. Dywedodd y swyddogion gorfodi bod y gerddoriaeth yn rhy swnllyd hefyd a bod angen troi'r sain i lawr.
Ddydd Sadwrn, 26 Medi, cafodd 12 o safleoedd eraill ym Mhen-y-bont, Maesteg ac Abercynffig ymweliadau a chanfu’r swyddogion eu bod yn cydymffurfio'n dda ar y cyfan a rhoddwyd cyngor ynghylch unrhyw broblemau a nodwyd. Wythnos diwethaf, cafodd hysbysiad ei gyflwyno i Gastell Coety ar Morfa Street ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn pryderon am gadw pellter cymdeithasol a diffyg gwybodaeth i'r ymwelwyr neu'r staff am leihau'r risg o'r coronafeirws.
Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn ymweld â'r adeiladau ledled y fwrdeistref sirol yn rhagweithiol.
Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fusnesau yn cydymffurfio â’r rheoliadau ac nad oes gan y swyddogion gorfodi unrhyw bryderon am y mesurau sydd ar waith yn y safleoedd hyn. Rhoddwyd cyngor a chefnogaeth lle gwelwyd unrhyw fân broblemau a oedd yn achosi pryder.
Mae cyfanswm o bedwar Hysbysiad Gwella wedi'u cyflwyno dros y diwrnodau diwethaf, a bydd y tîm gorfodi yn ailymweld â'r safleoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl reoliadau angenrheidiol. Byddwn yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth ac yn annog ein trigolion i gysylltu â ni os oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â safleoedd trwyddedig.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â phortffolio sy'n cynnwys y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Mae rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd i gymryd yr holl fesurau rhesymol er mwyn sicrhau bod pobl sydd ar y safle neu’n aros i fynd i mewn i’r safle yn cadw dau fetr ar wahân, a darparu gwybodaeth i bawb sy’n dod i mewn neu'n gweithio yno ynghylch sut i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Dylen nhw hefyd gymryd mesurau rhesymol eraill er mwyn helpu i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws, yn bennaf trwy wella hylendid a lleihau cyswllt wyneb yn wyneb, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle na ellir cadw pellter o ddau fetr.
Mae Hysbysiad Gwella Mangreoedd yn nodi'r mesurau sydd angen eu cymryd er mwyn bodloni'r rheoliadau o fewn terfyn amser penodol, 48 awr fel arfer.
Os bydd y safle yn methu â chydymffurfio, gall swyddogion gorfodi gyhoeddi Hysbysiad Cau Mangre, yn ei gwneud yn ofynnol i gau’r safle, neu ran ohono, am hyd at 14 diwrnod.
Mewn rhai achosion, gall swyddogion gorfodi hefyd gau'r safle ar unwaith heb orfod cyflwyno Hysbysiad Gwella, ond byddai hyn ond lle y mae rheoliadau wedi cael eu torri mewn modd difrifol.